Ailystyried cynlluniau i ddatblygu Bae Cinmel
- Cyhoeddwyd
Bydd un o bwyllgorau craffu Cyngor Conwy ddydd Llun yn ailystyried cynlluniau i ddatblygu rhannau o safle diwydiannol Tir Llwyd ym Mae Cinmel.
Yn y gorffennol mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod yn pryderu y gallai'r tir orlifo gan ei fod yn agos i'r glannau.
Wedi i'r cynlluniau gwreiddiol i ailddatblygu y safle fethu cafodd grŵp arbennig ei sefydlu er mwyn edrych yn fanwl ar y manteision a'r peryglon.
Mae'r pwyllgor hwnnw bellach wedi cyflwyno ei adroddiad i'r cyngor.
'Diddordeb pendant'
Mae'n dweud nad yw'r risg o lifogydd gymaint ag a ofnwyd yn wreiddiol gan nad yw lefel y môr wedi codi cymaint â'r disgwyl.
Yn ogystal mae'r pwyllgor yn nodi bod yr amddiffynfeydd rhag y môr yn effeithiol.
Fe gafodd y safle ganiatâd cynllunio yn Hydref 2017.
Bydd yr adroddiad, a fydd yn mynd o flaen cynghorwyr, yn nodi bod gan ddau gwmni ddiddordeb yn y tir a bod "dau gwmni busnes arall wedi dangos diddordeb pendant ers y caniatâd cynllunio".
Os yw'r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, mae'r cyngor yn gobeithio y bydd y safle yn denu buddsoddiad gan ddatblygwyr a fydd yn dod â mwy o waith i'r ardal.