Lluniau: Eira Chwefror
- Cyhoeddwyd
Roedden nhw'n gaddo eira ac mae o wedi cyrraedd rhai rhannau o orllewin Cymru ar 6 Chwefror. Dyma i chi rai o'r lluniau:

Llun trawiadol o Bont Menai dan flanced o eira

Mae hi'n wyn ar Fynydd Conwy

Mae hi'n bwrw eira yn sir Benfro hefyd. Dyma bentref Mynachlog-Ddu

Mae Llanuwchllyn yn Llanuwchwyn heddiw!

Yr olygfa aeafol o Gaernarfon

Hwre! Mae Iwan, Gwawr a Lowri wrth eu boddau bod ysgolion Llangefni wedi cau

Byddai'r olygfa hon o Fetws-y-Coed yn gwneud cerdyn post da

Nant y Pandy (Dingle), Llangefni

Tal y Llyn ger Tywyn

Plas Newydd ar lan y Fenai

Mae'r eira wedi cyrraedd Caerfyrddin

Mae Aberystwyth hefyd yn mwynhau diwrnod gwyn