Gweithiau da Vinci'n dod ar daith i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd rhai o weithiau Leonardo da Vinci'n dod i Gymru fel rhan o ddathliadau i nodi 500 mlynedd ei farwolaeth y flwyddyn nesaf.
Rhwng mis Chwefror a mis Mai 2019, bydd 12 o weithiau'r athrylith o gyfnod y Dadeni yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Mae'n rhan o arddangosfa deithiol fydd yn ymweld â gwahanol ddinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae'r darluniau o'r Casgliad Brenhinol yn adleywrchu amrywiaeth diddordebau Leonardo - paentio, cerflunio, pensaernïaeth, cerddoriaeth, y corff dynol, peirianneg, mapio, daeareg a botaneg.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru ei fod yn "falch iawn o gydweithio ag Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol i ddod ag arddangosfa o weithiau eithriadol un o arlunwyr mawr y Dadeni i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
"Mae'n achos cyffro mawr bod yn rhan o'r rhaglen uchelgeisiol hon i arddangos gwaith Leonardo i gymaint o gynulleidfaoedd ar draws y DU â sydd bosib.
"Gobeithiaf y bydd ein hymwelwyr yma yng Nghymru'n manteisio ar y cyfle i gael gweld y casgliad hynod hwn a dysgu mwy am fywyd cyfareddol Leonardo da Vinci."