Beirniadu defnyddio ceir y llywodraeth i gludo dogfennau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu ei bod wedi defnyddio ceir swyddogol i gludo dogfennau, heb unrhyw bobl yn bresennol, ar 109 achlysur dros dair blynedd.
Fe gafodd 53 taith o'r fath eu gwneud yn 2015, 29 yn 2016 a 27 yn 2017.
Daeth y ffigyrau i'r amlwg yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr.
Dywedodd Janet Finch-Saunders AC o'r Ceidwadwyr fod hyn yn "wastraff o'r radd flaenaf", ond dywedodd gweinidogion bod y defnydd o geir yn y modd hwn yn "parhau i leihau yn flynyddol".
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod achosion o ddefnyddio ceir gweinidogol i gludo dogfennau yn "isafol gan fod mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud yn electroneg".
Ond ychwanegodd y datganiad fod "rhai dogfennau o bwysigrwydd busnes eithriadol angen cyrraedd gweinidogion ar frys".
Dywedodd Ms Finch-Saunders: "Mae defnyddio ceir pwerus i gludo dogfennau papur yn wastraff o'r radd flaenaf ac yn sarhad ar y trethdalwr.
"Cyn belled ag ydw i'n gwybod, mae pob aelod o gabinet Llywodraeth Cymru yn medru defnyddio e-bost ac yn gallu gyrru, reidio beic neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus felly does dim esgus wir am ymddygiad diog fel hyn."
Atebodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ceir y Llywodraeth yn cael eu defnyddio'n achlysurol i gludo dogfennau sensitif a chyfrinachol i weinidogion pan mae angen gweithredu ar frys.
"Mae defnydd ceir y Llywodraeth i'r pwrpas yma yn parhau i leihau yn flynyddol."
Mewn atebion ar wahân i gwestiynau ysgrifenedig gan Ms Finch-Saunders, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mai'r gost o gyflogi 12 gyrrwr i'r 12 car gweinidogol oedd oddeutu £282,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol hyd yma.
Y gost yn 2016-17 oedd ychydig llai na £316,500.