Y daith o dde i ogledd Cymru yn 'rhwystr' i ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
A470 yn Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cymryd pedair awr i bobl yrru rhwng y de a'r gogledd a'r hyd yr A470

Mae hyd y daith i yrwyr rhwng gogledd a de Cymru yn "rhwystr" i ddenu mwy o ymwelwyr o dramor, yn ôl pennaeth un o brif gyrff diwydiant twristiaeth y DU.

Dywed prif weithredwr UK Inbound, Deirdre Wells, bod miliwn o ymwelwyr yn dod i Gymru bob blwyddyn, gan wario tua £330m.

Ond mae'n dweud bod angen i'r awdurdodau "wneud mwy" i wella'r daith rhwng y de a'r gogledd, fel bod dim angen i bobl orfod gyrru am bedair awr.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi arian i wella'r ffyrdd a'r rheilffyrdd.

Dywedodd Sean Taylor, sylfaenydd atyniadau Zip World yn Eryri, wrth gynhadledd UK Inbound yng Nghaerdydd bod teithio rhwng dinasoedd Caerdydd ac Abertawe yn y de a gogledd Cymru yn anodd.

Ffynhonnell y llun, Bruce Adams
Disgrifiad o’r llun,

Gwifren Zipworld uwchben chwarel y Penrhyn ym Methesda yw'r hiraf yn Ewrop a'r gyflymaf yn y byd

Mae'r rhan fwyaf o deithwyr yn defnyddio'r A470, sy'n cysylltu Caerdydd a Llandudno, ond rhannau cyfyng o'i hyd sy'n ffordd ddeuol.

Mae gofyn am wella'r rhwydwaith yn ôl Ms Wells.

"Dwi'n meddwl y gallen ni wneud mwy i sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gystal â phosib," dywedodd.

"Rydym yn hybu rhwydweithiau i gymudwyr... ond mewn gwirionedd mae'r sector hamdden yn gwneud llawer iawn i atgyfnerthu cynaliadwyedd trafnidiaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Wyddfa - mynydd uchaf Cymru - sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn

Dywedodd bod dibyniaeth ar gysylltiadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin yn golygu bod y mannau lle mae ymwelwyr yn cyrraedd Cymru yn y lle cyntaf yn hollbwysig.

"Mae 'na hediadau newydd gwych i faes awyr Caerdydd ac mae wastad yn helpu os mae modd cludo pobl i'r cyrchfan yn uniongyrchol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn marchnata tair taith bosib ar draws ffyrdd Cymru er mwyn dangos yr hyn sydd gan wlad i'w gynnig.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae hyn… ynghyd â'r buddsoddiad sy'n parhau ar draws ein rhwydwaith cefnffyrdd, trefniadau i wella'r gwasanaethau trenau, a'r cynnig i deithio ar fysus TrawsCymru am ddim ar benwythnosau."