'Angen manteisio ar gynnydd twristiaid o Japan'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i fusnesau fod yn effro i'r cyfleoedd ddaw ar ôl i ogledd Cymru gael ei ddewis gan gorff twristaidd Japan fel un o 20 lle mwyaf atyniadol Ewrop, yn ôl corff sy'n hybu'r diwydiant ymwelwyr.
Dywedodd Pennaeth Twristiaeth Gogledd Cymru fod y newyddion yn hwb mawr i'r ardal sydd wedi gweld "cynnydd anhygoel yn ddiweddar gyda nifer yr ymwelwr o Japan yn codi i 2,400 - cynnydd o 84% mewn dwy flynedd."
Wrth gyfeirio at y penderfyniad i ddewis gogledd Cymru fel un o'r 20 ardal fwyaf atyniadol, dywedodd Jim Jones ei fod yn "gyfle euraid i fusnesau wneud eu marc".
Yn ôl Siambr Fasnach Conwy mae'r dref wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr o Japan, a bydd y mudiad yn ceisio rhoi cymorth i fusnesau fanteisio.
Codi proffil
Mae JATA, corff mwyaf dylanwadol diwydiant twristiaeth Japan, wedi dewis llwybr cestyll - Castles in Wonderland - wrth geisio perswadio pobl i ymweld â'r cyfandir.
Daw'r ymgyrch oherwydd bod pobl y wlad yn fwy cyndyn o deithio o ganlyniad i bryder am ymosodiadau terfysgol yn Ewrop.
Dywedodd Mr Jones: "Roedd ymwelwyr Japan yn arfer anwybyddu gogledd Cymru, yn mynd i ddinas Caer, ardal y Llynnoedd ac yna i Gaerfaddon neu Lundain ac adre, ond rydym wedi gweithio yn galed i godi proffil yr ardal.
"Y llynedd cafodd Conwy ei ddewis fel un o'r trefi neu bentrefi mwyaf prydferth yn Ewrop, a nawr mae un o hewlydd y gogledd wedi ei dewis fel un o'r 20 mwyaf prydferth yn Ewrop."
Fe wnaeth dros 240,000 o ymwelwyr Japan ddod i'r DU y llynedd;
Ar gyfartaledd mae nhw'n gwario £880 y pen
Fe wnaeth dros 70% fynd i Lundain;
Mae gogledd Cymru wedi gweld cynydd o 84% mewn dwy flynedd.
Dywedodd Toby Tunstall, Cadeirydd Siambr Fasnach Conwy, fod busnesau wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr o Japan.
"Roedd yna griw ffilmio o'r wlad yma yn ddiweddar, mae 'na ddiddordeb mawr, dwi methu cweit rhoi fy mys ar y peth ond mae yna bendant ddiddordeb," meddai.
"Rydym rhwng y mynydd a'r môr ac wrth gwrs y castell, ac mae'r nifer o siopau yn rhai annibynnol felly 'de ni ddim yn debyg i bob tre' arall, rydym yn cynnig rhywbeth yn wahanol.
"Bydd yr ymgyrch Llwybr Cestyll yn rhywbeth all fod o help mawr a byddwn ni fel busnesau yn sicr yn trio cymryd mantais ohono."
Mae'r Llwybr Cestyll yn dechrau yn y Drenewydd ac yn mynd drwy Y Waun, Wrecsam, Rhuthun cyn ymweld â Dyffryn Conwy, Pen Llŷn, Ynys Môn a Chaernarfon.
Ychwanegodd Mr Jones: "Rydym rŵan yn rhan flaenllaw o'u hymgyrch nhw, a bydd yr ymgyrch yma yn para tua thair blynedd, mae'r diwydiant ymwelwyr Japan yn un anferth.
"O'r blaen pan oeddwn yn mynd i gynadleddau twristiaeth doedd dim son am Gymru yn y fideos am y DU na Ewrop, roedd teithiau yn aml yn aros yng Nghaer ac o bosib yn mynd am daith diwrnod yn unig o gwmpas y gogledd."
Mae twf cyffredinol wedi bod ym mhoblogrwydd y gogledd fel atyniad twristaidd a hynny'n rhannol oherwydd datblygiad canolfannau antur fel Zip World a Surf Snowdonia.
Dywedodd Sean Taylor o gwmni Zip World, sydd ym Methesda, Gwynedd fod Twristiaeth Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio yn galed i hyrwyddo'r ardal i wledydd newydd, a bod y "newyddion diweddara' yn galonogol iawn gyda'r gobaith y bydd mwy yn cael eu denu".
"Mae yna olygfeydd bendigedig yma a chyfle gwych i antura ac rydym eisoes wedi gweld cynnydd ymhlith twristiaid rhyngwladol sy'n dod yma a defnyddio'n safle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2017