Rhybudd melyn mewn grym am eira a rhew ledled Cymru
- Cyhoeddwyd

Rhan o'r ffordd rhwng Llanbrynmair a Llanidloes ben bore Gwener
Mae rhybudd am eira a rhew mewn grym ar gyfer bron i bob rhan o Gymru yn dechrau yn oriau mân fore Gwener.
Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng hanner nos a 12:00 ddydd Gwener.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd cenllysg trwm ac eira mewn nifer o fannau.
Bydd y tymheredd isel yn golygu rhew ar ffyrdd, ac maen nhw'n rhybuddio pobl i gymryd rhagor o ofal, yn enwedig ar lonydd sydd heb eu graeanu.
Ychwanegon nhw y gallai hyd at 5cm o eira ddisgyn ar dir uwch na 100m, a bod posibilrwydd y bydd angen cau rhai ffyrdd.
Mae Uned Plismona'r Ffyrdd yn Aberhonddu yn rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus ar briffyrdd a lonydd bach yr ardal sy'n llithrig iawn oherwydd rhew ac eira.

Mae'r priffyrdd a'r lonydd bach yn llithrig yn ardal Aberhonddu