Ffafrio'r Bae fel safle arena newydd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Arena CaerdyddFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi mai Glanfa'r Iwerydd yw'r lleoliad maen nhw'n ffafrio ar gyfer adeiladu arena dan do fydd â 15,000 o seddi.

Mae'r cyngor yn gobeithio y gall y datblygiad £110m gael ei adeiladu ar ddau safle ger Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway y byddai'r stadiwm yn "creu cyrchfan wedi'i hadfywio i ymwelwyr yn y Bae".

Bydd cabinet y cyngor yn trafod yr awgrym mewn cyfarfod ddydd Iau.

Ym mis Mehefin dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates bod datblygu arena newydd yn "hanfodol bwysig" i'r ddinas.

Mae Stadiwm Principality yn dal 74,000 o bobl ac mae Arena Motorpoint yn gallu cael mwyafrif o 7,000, ond does dim lleoliad dan do yn y brifddinas sydd â chapasiti rhwng y ddau.

Dywedodd y cyngor y gall yr arena newydd fod yn "gartref posibl i ddigwyddiadau diwylliannol, chwaraeon ac adloniant mawr".