Dyn o Geredigion yn gwadu 23 cyhuddiad o gam-drin rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 39 oed o Geredigion wedi gwadu cyhuddiadau'n ymwneud â nifer o droseddau rhyw yn erbyn tair merch ifanc.
Mae Owain Llŷr Thomas, oedd yn arfer gweithio fel technegydd cyfrifiaduron mewn ysgol ac i Gyngor Llyfrau Cymru, wedi'i gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn y merched.
Mae Mr Thomas, sy'n wreiddiol o Heol Dewi Sant, Aberystwyth ond sydd nawr yn byw ym Margam, yn gwadu 23 o gyhuddiadau, gan gynnwys ymosodiad rhyw ar ferch o dan 13 oed.
Honiad yr erlyniad yw i'r troseddau ddigwydd rhwng 1995 a 2007.
Cyfweliad heddlu
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Abertawe, fe wyliodd y rheithgor fideo o gyfweliad un o'r merched gyda'r heddlu.
Fe aeth hi at yr heddlu ar ôl iddi rannu ei phrofiadau gyda chwnsler pan yn fyfyriwr yn y brifysgol gan ei bod hi'n dioddef o iselder a phryder.
Yn y cyfweliad, disgrifiodd y ferch sut y byddai Mr Thomas yn ei chyffwrdd hi yn "aml" a chymryd ei llun.
Fe ddywedodd y byddai Mr Thomas yn ei chyffwrdd hi'n anweddus, ac fe ddisgrifiodd y ferch enghreifftiau o gam-drin rhyw difrifol hefyd.
Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Thomas wedi gweithredu ar gyfer ei foddhad rhywiol ei hun.
Mae Mr Thomas yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.