Cynnig £10,000 am wybodaeth am drosedd yn 2002
- Cyhoeddwyd

Cafodd Leon Adams ei weld ar gamera cylch cyfyng yng nghanol Caerdydd
Mae elusen wedi cynnig hyd at £10,000 am wybodaeth fydd yn arwain at arestio ac euogfarn yn erbyn y bobl oedd yn gyfrifol am ymosodiad ar ddyn yng Nghaerdydd 16 mlynedd yn ôl.
Wedi'r digwyddiad ar 14 Chwefror, 2002 daeth yr heddlu o hyd i Leon Adams am tua 05:10 ar lawr ger mynedfa gorsaf rheilffordd Grangetown ar Ffordd Penarth.
O ganlyniad i'r ymosodiad, fe gafodd Leon Adams anafiadau a newidiodd ei fywyd, ac ar hyn o bryd mae'n byw mewn canolfan gymorth yn agos at ei deulu.
Mae angen gofal parhaus arno. Mae'n defnyddio cadair olwyn, ychydig iawn o ddefnydd sydd ganddo o'i law dde ac mae'n cael trafferth cyfathrebu.
Am tua 02:30 ar fore'r ymosodiad, deellir fod Mr Adams wedi bod mewn anghydfod gyda thri dyn. Cafodd swm o arian ei ddwyn oddi ar Mr Adams yn ogystal.

Leon Adams gyda'i chwaer Louise yn 2008
Mae elusen Taclo'r Tacle nawr yn cynnig arian am wybodaeth fydd yn arwain at euogfarn, gan obeithio y bydd y dyddiad yn sbarduno cof pobl oedd yn yr ardal ar y pryd.
Dywedodd rheolwr Taclo'r Tacle yng Nghymru, Ella Rabaiotti: "Dyma ddigwyddiad a effeithiodd yn arw ar ansawdd bywyd dyn diniwed, a hynny er mwyn swm pitw o arian.
"Mae Leon a'i deulu yn haeddu cael gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y lladrad a'r ymosodiad, a byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth o'r noson honno i gysylltu gyda ni yn ddienw.
"Fyddwn ni ddim yn barnu, nac yn gofyn am wybodaeth bersonol, dim ond pasio'r wybodaeth ymlaen."
Mae'r elusen yn gofyn i bobl ffonio 0800 555111 yn ddienw, neu ddefnyddio'r ffurflen ddienw ar-lein.