Diddymu byrddau hanner parthau menter Cymru

  • Cyhoeddwyd
Parthau MenterFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd nifer o'r byrddau sydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar barthau menter yn cael eu diddymu yn yr haf.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y bydd y byrddau sydd yn goruchwylio'r parthau yng Nghaerdydd, Sain Tathan, Glannau Dyfrdwy a Glyn Ebwy yn dirwyn i ben ar 31 Gorffennaf.

Bydd y byrddau ym Mhort Talbot a gorllewin Cymru yn parhau, tra bod rhai Eryri ac Ynys Môn yn cyfuno.

Fe fydd y Parthau Menter eu hunain - sydd yno i annog cwmnïau newydd i osod gwreiddiau - yn parhau i fod mewn bodolaeth.

'Llawer i'w gyflawni'

Dywedodd Ken Skates y gallai mwy o barthau menter gael eu creu, mewn ardaloedd fel Wrecsam, os oedd hynny'n "ddymunol ac angenrheidiol".

"Bydd dal wyth parth menter," meddai Mr Skates wrth ACau ar Bwyllgor Economi a Seilwaith y Cynulliad.

"Ond bydd llai o fiwrocratiaeth a hynny mewn ffurf ychydig yn wahanol, fydd wedyn yn golygu arbedion i'r pwrs cyhoeddus."

Mae'r byrddau, sy'n cynnwys ffigyrau o'r sector preifat, yn cynnig cyngor i'r llywodraeth ar y gwaith o fewn y parthau.

Dywedodd Mr Skates fod "llawer i'w gyflawni" o hyd ym mharthau menter Glannau Port Talbot a Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ac y byddai'r byrddau yno'n aros am dair blynedd arall.

Ychwanegodd fod Ynys Môn ac Eryri hefyd yn canolbwyntio ar "brosiectau mawr hir dymor", gan gynnwys atomfa Wylfa Newydd.

Byddai cyfuno'r byrddau ar gyfer y ddau barth yn sicrhau felly, meddai, na fyddai "buddiannau'n gwrthdaro" gan arwain at fethiant i dyfu economïau'r naill na'r llall.

Dywedodd fod byrddau Caerdydd a Sain Tathan wedi "cyflawni'r amcanion" gafodd eu gosod iddyn nhw, tra y byddai "strwythur rheoli" yn cael ei roi yn ei le yng Nglyn Ebwy ar gyfer parc technoleg gwerth £100m.

Ychwanegodd y gweinidog fod 10,000 o swyddi wedi cael eu cynorthwyo drwy'r parthau ers 2012, gyda £5,971 yn cael ei wario am bob un o'r swyddi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates nad oedd yr un lefel o gymelliadau ar gael ar gyfer parthau menter ag oedd yn yr 1980au

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu gwerth am arian y parthau menter, gyda'u harweinydd Andrew RT Davies yn dweud eu bod wedi costio "cannoedd o filiynau o bunnau o arian y trethdalwyr".

"Mae sylwadau Ysgrifennydd yr Economi heddiw yn awgrymu fod Llywodraeth Cymru am barhau ar hyd llwybr y parthau menter, ac o bosib taflu arian da ar ôl drwg," meddai.

"Mae'r cynllun gafodd ei amlinellu heddiw yn edrych fel un ar hap, hyd yn oed yn anniben, a dyw e bendant ddim yn ffitio i rethreg y cynllun gweithredu economaidd sydd newydd ei lansio gan Lywodraeth Cymru."