Parthau Menter: 'Dim digon yn digwydd'
Mae bron i 3,000 o swyddi wedi eu creu ers sefydlu'r Parthau Menter, medd Llywodraeth Cymru.
Fe gafodd y parthau eu sefydlu yn 2012 gyda'r bwriad o annog cwmnïau newydd i osod gwreiddiau yno.
Ond gyda £221m wedi ei fuddsoddi, mae'r Ceidwadwyr yn cwestiynu'r buddsoddiad, gan ddisgrifio'r parthau fel "y gwastraff arian cyhoeddus mwyaf ers datganoli".
Yn ôl Owain Samuel Owen o gwmni adeiladu DU Construction, does dim digon o hybu'n digwydd ar y parthau menter.