Y Cynulliad i gael pleidlais ar ffordd liniaru'r M4
- Cyhoeddwyd
Bydd Aelodau Cynulliad yn cael pleidlais yn ddiweddarach eleni ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4.
Mae sawl AC Llafur wedi galw am gael pleidlais unwaith bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau wedi ei gwblhau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio'r 'llwybr du', fyddai'n golygu traffordd newydd 15 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd ar gost o £1.4bn.
Mae rhai ar feinciau cefn y blaid Lafur eisiau i'r arian gael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.
'Un neu'r llall'
Bydd y bleidlais yn cael ei gweld fel prawf o awdurdod Carwyn Jones ar ôl misoedd anodd i'r prif weinidog.
Yn ôl cyn-ymgynghorydd i Jeremy Corbyn ddylai'r llywodraeth Lafur ddim bwrw 'mlaen â'u cynlluniau ar gyfer yr M4 ar hyn o bryd.
Dywedodd Steve Howell wrth raglen Wales Live y byddai Mr Jones yn gwneud "camgymeriad" wrth geisio gwthio'r newidiadau drwyddo yn yr amgylchedd presennol.
"Y realiti yw bod y ffordd liniaru fyny yn erbyn y Metro [i dde Cymru]," meddai.
"Bydd hyn yn defnyddio'r holl gyllid cyfalaf sydd ar gael i Gymru. Mae hynny'n golygu na fydd arian ar gyfer y Metro."
Ychwanegodd nad oedd hi'n "gynaliadwy yn amgylcheddol" i ddweud y byddai'r cynllun yn cyflawni'r bwriad o leihau tagfeydd.
Llynedd fe wnaeth yr AC Llafur, Lee Waters awgrymu y gallai penderfyniad y llywodraeth wynebu adolygiad cyfreithiol ac oedi pellach.
Byddai hynny, meddai Mr Howell, yn golygu tebygolrwydd fod Carwyn Jones "yn gadael ei olynydd i ddelio â phrosiect dydy llawer o bobl ddim eisiau".
'Tagfa'
Ond mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi dweud fod angen y ffordd liniaru yn ogystal â buddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth eraill.
"Mae'n hanfodol nad ydyn ni'n edrych ar brosiectau trafnidiaeth unigol ar eu pen eu hunain, mae angen i ni weld y darlun ehangach o ran trafnidiaeth integredig," meddai.
Ychwanegodd: "Yr M4 ydy'r wythïen allweddol ar gyfer de Cymru gyfan ac mae'n hanfodol nad oes rhwystr i'r wythïen honno.
"Mae wedi cael ei ddisgrifio gan gyn-brif weinidog fel tagfa ar economi de Cymru, a bydden i'n cytuno gyda hynny."
Mynnodd hefyd y byddai'n "gwrando'n astud" ar farn ei gyd-aelodau Llafur wedi iddyn nhw ystyried canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "cynnal dadl ar gynlluniau'r M4 nes ymlaen eleni".
Roedd y llywodraeth wedi dweud yn y gorffennol nad oedd angen bleidlais benodol, gan fod addewid i adeiladu ffordd liniaru i'r M4 ym maniffesto'r blaid Lafur yn 2016.