TAC yn ethol prif weithredwr Rondo yn gadeirydd newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Teledwyr Annibynnol Cymru wedi cyhoeddi mai prif weithredwr Rondo Media, Gareth Williams, sydd wedi'i ethol yn gadeirydd newydd y gymdeithas.
Bydd yn olynu Iestyn Garlick, sy'n camu lawr o arwain TAC yn dilyn Adolygiad Siarter diweddar y BBC.
TAC yw'r corff sy'n cynrychioli sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru.
Mae Mr Williams wedi bod yn brif weithredwr Rondo ers i'r cwmni gael ei sefydlu yn 2008 yn dilyn cyfuno cwmnïau Nant ac Opus.
Fe ddechreuodd ei yrfa fel cynhyrchydd radio dan hyfforddiant yn BBC Radio Cymru yn 1997 cyn ymuno ag Adran Gerddoriaeth y BBC.
Ymunodd ag Opus yn 2001 cyn cael ei benodi'n brif weithredwr yn 2006, ac mae wedi bod yn aelod o gyngor TAC ers 2011.
Dywedodd Mr Williams ei bod yn "fraint cael fy newis i olynu Iestyn".
"Mi hoffwn i, a phawb arall sy'n ymwneud â TAC, gofnodi ein diolch am ei waith diflino wrth hyrwyddo'r sector teledu annibynnol yng Nghymru," meddai.
"Rydw i'n edrych ymlaen at weithio tuag at ganlyniadau'r Adolygiad o S4C, ac at gydweithio â Llywodraeth Cymru a San Steffan i hyrwyddo'r sector a'r diwydiannau creadigol ehangach."
Dywedodd Mr Garlick, oedd wedi bod yn y rôl ers 2009: "Mi fuodd yn gyfnod prysur iawn o fod yn gadeirydd TAC, ond gyda chymorth cyngor TAC, rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni ystod eang o weithgareddau.
"Mae Gareth wedi bod yn rhan flaenllaw o'r holl waith a gyflawnwyd gennym, ac rydw i'n falch o gamu i lawr gan wybod y bydd TAC yn ei ofal diogel."