Davies i daflu pwysau yn erbyn athletwyr heb anableddau
- Cyhoeddwyd
Bydd yr athletwr paralympaidd, Aled Sion Davies yn cystadlu yn erbyn athletwyr heb anableddau am y tro cyntaf dros y penwythnos.
Bydd y pencampwr byd o Ben-y-bont ar Ogwr yn taflu pwysau ym Mhencampwriaeth Athletau dan do Prydain yn Birmingham.
Ni fydd Davies, sy'n 26 oed, yn cael cystadlu yn Gemau'r Gymanwlad 2018 gan nad yw'r gamp mae'n cystadlu ynddi yn rhan o'r rhaglen.
Ei obaith yw cystadlu yn y Gemau Gymanwlad llawn yn 2022.
'Taflu'n bellach'
Dywedodd Aled Sion Davies ei fod yn edrych ymlaen ar gyfer y gystadleuaeth.
"Dwi wedi penderfynu cystadlu oherwydd dwi eisiau gweld pa mor bell allai fynd gyda'r gamp," meddai.
"Dwi eisiau cyflawni safon Cymanwlad, dyna'r prif nod.
"Dwi'n gwybod gallai daflu llawer pellach, felly mae'n rhoi'r ysgogiad i mi fod ysgwydd wrth ysgwydd gydag athletwyr heb anableddau."