300 yn protestio yn erbyn cynllun posib i letya ceiswyr lloches yn Yr Wyddgrug

- Cyhoeddwyd
Roedd yna 300 o bobl mewn protest yn Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i unrhyw gynllun posibl i ddarparu llety i geiswyr lloches yn y dref.
Roedd y protestwyr yn anhapus ynghylch sibrydion y gallai rhai fflatiau yn y dref gael eu defnyddio i gartrefu ceiswyr lloches.
Yn y cyfamser roedd yna 40 mewn protest arall gerllaw - roedden nhw yn cario baneri gyda'r geiriau "Na i hiliaeth" a "Croeso i geiswyr lloches".
Ar un adeg bu'n rhaid i blismyn sefyll rhwng y ddwy brotest yn ystod rhai golygfeydd o wrthdaro.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod gwneud sylwadau.

Roedd Netty Lloyd yn un o drefnwyr y brotest
Dywedodd Netty Lloyd, 49, un o drefnwyr y brotest: "Rydw i wedi byw yn Yr Wyddgrug ers 49 mlynedd. Mae angen i'n cymuned aros gyda'n gilydd, gofalu am ein gilydd, a chefnogi ein hunain yn gyntaf."
Fodd bynnag, dywedodd un o'r gwrth-brotestwyr, Benjamin Lawrence Jones, ei fod eisiau dod i ddangos ei gefnogaeth i "bobl o gefndiroedd gwahanol".
"Roedden ni'n sefyll ein tir, yn canu ein caneuon, ac yn sefyll dros yr hyn rydyn ni'n credu ynddo, sef y prif beth ar ddiwedd y dydd," ychwanegodd.
Yn ddiweddar mae dwsinau o brotestiadau wedi'u cynnal ledled y DU ynghylch defnyddio gwestai ar gyfer lletya ceiswyr lloches.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.