Beks: Sut mae'r cerddor Felix Klieser yn fy ysbrydoli

Beks a FelixFfynhonnell y llun, Rebekah James
  • Cyhoeddwyd

Wedi byw yn Hong Kong ers 22 mlynedd, mae'r cyflwynydd Beks yn cydnabod fod dychwelyd i Gymru yn brofiad emosiynol iawn iddi bob tro.

Ond mae dod yn ôl i'w mamwlad eleni wedi bod yn arbennig o emosiynol gan bod ei ffrind, y cerddor Almaenig Felix Klieser, yn chwarae cyngerdd ym Machynlleth nos Sadwrn gyda Beks, neu Rebekah James, yno i'w gefnogi.

Mae cyfarfod y chwaraewr corn Ffrengig, sy' wedi chwarae gyda cerddorfeydd dros y byd, wedi ysbrydoli y cyflwynydd oedd yn wyneb cyfarwydd ar S4C yn y 1990au.

Mae'r stori'n cychwyn ym mis Ebrill eleni pan welodd Beks boster wrth gerdded drwy orsaf drên yn Hong Kong, fel mae'n esbonio: "Welais i boster am gyngerdd Mozart horn concertos gyda Felix Klieser yn unawdydd yn chwarae gyda cerddorfa.

"O'n i ddim wedi clywed am Felix ond 'nes i googlo fe a darganfod bod ddim breichiau gyda fe. So waw – o'n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Es i i'r gyngerdd a 'nath e chwarae awr a hanner o gerddoriaeth.

"Mae wedi chwarae yn yr Albert Hall a Proms y BBC ac wedi ennill gwobrau diri."

Felix KlieserFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Felix Klieser, a gafodd ei eni heb freichiau, yn chwarae'r corn Ffrengig ers yn bump oed

Gan fod Beks fel plentyn ac yn ei harddegau wedi chwarae'r corn Ffrengig ei hun roedd diddordeb arbennig ganddi yn yr Almaenwr ifanc oedd wedi cychwyn chwarae'r corn Ffrengig gyda'i draed yn bum mlwydd oed.

Roedd hithau hefyd wedi cychwyn chwarae'r corn yn ifanc ac wedi parhau i'w chwarae mewn cerddorfeydd a bandiau jazz fel plentyn ac yn ei harddegau.

Yn awyddus iawn i gyfarfod Felix wyneb yn wyneb, trefnodd Beks gyfweliad gyda fe y diwrnod wedi'r cyngerdd. Roedd y sgwrs yn un hir a'r ddau yn dod ymlaen yn dda: "Ni wedi cadw mewn cysylltiad ers hynny. Mae wedi bod yn chwarae mewn sawl man yn Ewrop.

Beks a FelixFfynhonnell y llun, Rebekah James

"Mae e'n ddyn gwbl anhygoel – s'dim byd mae e'n methu ei wneud."

Mae ei feddylfryd am fywyd yn arbennig, yn ôl Beks: "Ni'n gofidio am y pethe bach ond gyda Felix s'dim byd yn ormod o fynydd iddo fe. Mae wedi ysgrifennu llyfr.

"Aeth e i Antigua y dydd ar ôl y cyngerdd a mynd am open water swim – s'dim syniad 'da fi sut mae e'n neud hwnna. Mae e'n gyrru car yn Yr Almaen. Os mae e'n gallu, mae'n trio teithio i'r cyngherddau heb unrhyw un arall.

"Dwi'n credu mae 'da'r ddau o ni eitha' lot yn gyffredin – ni'n hoffi sialens a mae'r ddau o ni'n bobl optimistaidd iawn.

"Dwi'n edmygu y safon mae'n chwarae y corn Ffrengig, mae'n anhygoel. Mae ei ysbryd e yn anghredadwy a dwi'n credu welodd e rhywbeth tebyg ynda i sy' wedi byw yn Asia am 22 mlynedd, wedi magu tri o blant yma i ffwrdd o'r teulu yng Nghymru.

"Mae'n gweld Hong Kong yn le prysur a crazy.

"Ni'n ffrindiau da ac mae hwnna'n deimlad braf."

Priodi yn Eglwys Mwnt yn 2004, ac ar draeth yn Hong Kong yn 2020Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Priodi yn Eglwys Mwnt yn 2004, ac ar draeth yn Hong Kong yn 2020

Ysbrydoliaeth

Mae Beks yn teimlo ei bod wedi dysgu o'i chyfeillgarwch gyda'r cerddor: "I beidio achwyn achos ar ddiwedd y dydd os mae e'n gallu cyflawni popeth mae e'n gyflawni heb achwyn, mae jest wedi dysgu fi i werthfawrogi cymaint mewn bywyd.

"Ni'n cymryd gymaint yn ganiataol – iechyd, gallu defnyddio ein corff mewn ffordd rhydd a rhwydd.

"Dwi'n meddwl mae wedi dysgu fi os ti moyn rhywbeth s'dim ots beth yw e – dysgu iaith neu ysgrifennu llyfr - ti'n gallu neud e. Mae wedi rhoi y mindset shifft na i fi."

Cychwynnodd siwrne Felix Klieser i fod yn gerddor proffesiynol yn bump oed pan welodd lun o gorn Ffrengig a dweud wrth ei rieni fod e eisiau chwarae'r offeryn. Roedd ei rieni yn hapus iddo ddysgu – ond gan fod e'n byw mewn dinas fach yn Yr Almaen dim ond un athro oedd yn gymwys i'w ddysgu.

Dechreuodd gael gwersi gan yr athro ac mi roedd yn dal yn fachgen ifanc pan ddarganfyddodd bod modd chwarae fel unawdydd corn Ffrengig gyda cerddorfa. Roedd hynny'n drobwynt iddo.

Erbyn hyn mae wedi chwarae gyda rai o gerddorfeydd gorau'r byd gan gynnwys y London Philharmonic Orchestra a'r Berlin Philharmonic Orchestra.

Mae hyn yn dipyn o gamp wrth ystyried fod y corn Ffrengig yn un o'r offerynnau mwyaf anodd, fel mae Beks yn esbonio: "Y corn Ffrengig mas o'r offerynnau pres i gyd sy' gyda'r tubing hira' so mae'n rhaid i dy anadl di fynd trwy lot mwy o tubing na unrhyw offeryn pres arall.

"A'r mouthpiece i'r corn yw'r un lleiaf posib."

'Wastad yn emosiynol yng Nghymru'

Nos Sadwrn ym Machynlleth mi fydd Felix Klieser yn chwarae i gynulleidfa o Gymru ac mi fydd ei gyfaill o Hong Kong yno i'w gefnogi: "Dwi'n emosiynol braidd – dwi wastad yn emosiynol yng Nghymru am bopeth.

"Emosiynol am bobl a llefydd a chelfyddyd Cymraeg felly bydd e'n bach o tearjerker. Ond byddai'n browd iawn.

"Dwi'n edrych 'mlaen i'r gyngerdd."

Ac mae Felix hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth i Beks i ailgydio mewn offeryn oedd hi ddim wedi cyffwrdd ers blynyddoedd: "Mae wedi ysbrydoli fi i ailchwarae y corn achos es i a un fi gyda fi i Hong Kong 22 mlynedd yn ôl gan feddwl bydden i'n potsian.

"Mae'n ysbrydoli fi yn gyffredinol i feddwl - os oes breuddwyd gyda ti mae fe yn bosib.

"Ti ddim yn cwrdd a pobl fel 'na mewn bywyd bob dydd. Dwi'n methu meddwl am unrhyw un arall yn fy mywyd i sy' wedi cael y math yna o effaith."

"O'n i mor lwcus i'w gyfarfod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig