Dathlu 60 mlynedd o gynnal a chadw bythynnod mynydd

Am antur hynod wyllt mae bwthyn Dulyn yn cynnig cysgod ar lethrau'r Carneddau. Mae'r adeilad yma yn dyddio 'nôl i 1880 pan adeiladwyd argae cyfagos

Ffynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Am antur hynod wyllt mae bwthyn Dulyn yn cynnig cysgod ar lethrau'r Carneddau. Mae'r adeilad yma yn dyddio 'nôl i 1880 pan adeiladwyd argae cyfagos

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi erioed wedi teimlo'r ysfa i ddianc i fwthyn anghysbell yng nghysgod y mynydd?

Un sy'n hoff o wneud hynny ydy Gareth Morgan o Riwabon, Wrecsam.

Ac mae hynny'n bosib i unrhyw un gan fod yr elusen Mountain Bothy Association (MBA) yn gyfrifol am ofalu am 105 o fythynnod mynydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Eleni, mae'r MBA yn dathlu 60 mlynedd o gynnal a chadw'r bythynnod syml sy'n rhoi lloches i bobl sydd awydd noson ym mherfeddion gwyllt y wlad.

Ond lle mae bythynnod Cymru a beth rydyn ni'n ei wybod amdanyn nhw? Cymru Fyw aeth i dyrchu ac i holi Gareth am ei hobi.

Gareth yn coginio swper dan olau cannwyll mewn bwthyn anghysbellFfynhonnell y llun, Alan Bellis
Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn coginio swper dan olau cannwyll mewn bwthyn anghysbell

Dechreuodd Gareth ymddiddori ym mythynnod Cymru yn 2015 ar ôl iddo yntau a'i ffrind gorau gerdded wyth awr dros fryniau a chorsydd i dreulio'r noson ym mwthyn Moel Prysgau. Meddai am y profiad:

"Dyma'r daith waethaf i mi erioed ei wneud a bwriad yr holl waith caled oedd cael treulio'r noson mewn tŷ anghofiedig yng nghanol nunlle! Ar ôl y noson honno dwi wedi aros ymhob bwthyn yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

"Mae eistedd yno yn y tywyllwch gyda dim ond golau cannwyll yn goleuo'r ystafell yn deimlad arbennig, gan wybod fod popeth rydych chi ei angen am y noson wedi ei gario yno ar eich cefn.

"Hefyd does gennych ddim syniad pwy fydd yn 'mochel efo chi, sydd yn rhan o'r wefr."

Bwthyn neu bothy?

Mae'r term bothy wedi dod yn un cyfarwydd, a dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio gan yr elusen sy'n gofalu am y bythynnod ledled gogledd Lloegr, Yr Alban a Chymru.

Ond wedi bathu'r term o'r gair Gaeleg bothan ac o'r gair Cymraeg sef bwthyn maen nhw.

Adeiladau gwag mewn llefydd anghysbell a sydd wedi'u hamddifadu ydyn nhw, sydd bellach dan ofal yr MBA ers 1965.

Bothy White Laggan yn ne'r Alban; mae'r rhan helaeth o bothies Prydain yn yr Alban

Ffynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Bothan White Laggan yn ne'r Alban; mae'r rhan helaeth o fythynnod Prydain yn yr Alban

Gwaith yr elusen yw cynnal yr adeiladau er mwyn rhoi cyfle i gerddwyr wneud defnydd o'r cysgod a'r cysur mae'r bythynnod yn eu rhoi mewn mannau anghysbell.

Adeiladwyd llawer fel lloches i fugeiliaid a gweithiwyr ystadau yn ystod yr 19eg ganrif, ac o'i gymharu â'r Alban sydd â 90 bothy, dim ond naw o fythynnod sydd dan ofal yr MBA yng Nghymru.

Moel Prysgau: Bwthyn cyntaf Gareth

Bothy Moel Prysgau; arhosiad cyntaf Gareth mewn bothy

Ffynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Bwthyn Moel Prysgau; arhosiad cyntaf Gareth mewn bwthyn

Hen gartref bugail yw bwthyn Moel Prysgau yng Nghoedwig Tywi. Does dim mynediad i geir yma, ond mae'n gyfle euraidd am lonyddwch a dim byd ond coed tal yn syllu arnoch.

Tu mewn i bothy Moel PrysgauFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Tu mewn i fwthyn Moel Prysgau

Ei hoff fwthyn yng Nghymru

"Y bwthyn ar droed Arenig Fawr yw un o fy ffefrynnau, sydd ychydig yn rhyfedd wrth feddwl mai dyma'r bwthyn lleiaf dan ofal yr MBA.

"Mae mor heddychlon a thawel yno; dim ond un ystafell sy'n mesur tri metr wrth dri metr gyda dau blatfform cysgu a thân agored," eglura Gareth.

Hoff bothy Gareth yw'r un ar droed Arenig Fawr. Mae llyn Arenig Fawr gerllaw a'r daith i'r copa yn cymryd rhyw 2.5 awr o Lyn CelynFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Hoff fwthyn Gareth yw'r un ar droed Arenig Fawr. Mae llyn Arenig Fawr gerllaw a'r daith i'r copa yn cymryd rhyw 2.5 awr o Lyn Celyn

Gareth a'i ffrind yn treulio'r noson yn y bothy ar droed Arenig Fawr, ac yn cadw'n gynnes o flaen tanllwyth o dânFfynhonnell y llun, Gareth Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a'i ffrind yn treulio'r noson yn y bwthyn ar droed Arenig Fawr, ac yn cadw'n gynnes o flaen tanllwyth o dân

Rheolau eu defnyddio

Mae'r syniad yn syml; os yw'r bwthyn yn wag, mae'n agored i unrhyw un aros ynddo, dim ond eich bod yn parchu'r adeilad, pobl eraill sy'n ei ddefnyddio a'r amgylchedd o'ch cwmpas.

Ond, nid yw noson mewn bwthyn yn addas i unrhyw un sydd â safonau gwesty pum seren! Peidiwch â disgwyl mwy na tho uwch eich pen ac anghofiwch am dap, sinc, gwely, golau a weithiau, lle tân!

Byddwch angen dod â'r cyfan sydd ei angen arnoch i gadw'n glyd ac yn saff gyda chi; boed yn ddŵr, coed tân, golau a dillad cynnes.

(Ychydig iawn o'r bythynnod sydd gyda thoiledau hefyd, felly mae'n werth cofio am hynny, a dod â rhaw gyda chi...!)

Bythynnod Cymru mewn lluniau...

Penrhos isafFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Penrhos isaf

Mae'r tŷ yma a adeiladwyd yn 1880 yng nghanol coedwig hardd ger pentref Ganllwyd, Dolgellau. Mae copa Y Garn, Dduallt a Moel Hafodwen yn gyfagos a dyma ardal afon Mawddach.

Os yn aros yma bydd angen gwisgo'n gynnes gan mai dim ond rhwng Mawrth a Mai y gellir cynnau tanau bychain; ni ellir gwneud o gwbl dros weddill y flwyddyn gan fod yr adeilad yng nghanol coedwig.

Grwyne FawrFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Grwyne Fawr

Cysgu tri mae'r bwthyn bychan yma ar lannau'r Grwyne Fawr yn y Bannau Brycheiniog. Rhy fychan i ddod â'ch ci o bosib; mae gwefan yr MBA yn nodi y dylai cŵn fod dan reolaeth llym yma.

Lluest CwmbachFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Lluest Cwmbach

Lleolir Lluest Cwmbach uwchlaw Cronfa Craig Goch yng Nghwm Elan. Cafodd ei adnewyddu yn 2013, ac arferai fod yn fwthyn bugail. Rhaid gofyn i'r ystad am ganiatâd i aros yma.

Bothy Nant RhysFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Bwthyn Nant Rhys

Nant RhysFfynhonnell y llun, Gareth Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Nant Rhys

Mae bwthyn Nant Rhys yng nghanolbarth Cymru, nepell o Bontarfynach. Mae dwy ystafell i lawr grisiau; un yn cynnwys stof, cadeiriau a phlatfformau cysgu.

Lloches pwrpasol ar ôl crwydro Mynyddoedd Cambria, un o'r ardaloedd gwyllt, anghysbell olaf yn ne Ynysoedd Prydain.

Nant Syddion; safle fu'n gartref i Margaret ac Isaac Hughes a'u plant yn 1850 nes trallod fawrFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Nant Syddion; safle fu'n gartref i Margaret ac Isaac Hughes a'u plant yn 1850 nes trallod fawr

Tua 15 milltir tu allan i Aberystwyth, ym mynyddoedd y Cambria, mae Nant Syddion.

Tyddyn teulu Isaac a Margaret Hughes oedd yn sefyll ar y safle yma yn 1850 gydag Isaac yn gweithio yn y gwaith plwm cyfagos, Yma y ganwyd quadruplets cyntaf Cymru i Isaac a Margaret. Yn ôl yr hanes trist bu farw'r pedwar baban, bedwar diwrnod ar ôl eu genedigaeth.

Bu farw Isaac Hughes a dau o blant hynaf y teulu dros yr wythnosau canlynol, gan adael Margaret mewn galar creulon. Mae'n debyg mai afiechyd fel typhoid fyddai wedi eu lladd.

Adeiladwyd yr hen ffermdy presennol sydd bellach yn cynnig lloches i gerddwyr, tua 1930.

Cae AmosFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Cae Amos

Gareth a'i ffrindiau yn treulio'r noson yn Cae AmosFfynhonnell y llun, MBA
Disgrifiad o’r llun,

Gareth a'i ffrindiau yn treulio'r noson yn Cae Amos

Mae hen ffermdy Cae Amos yn sefyll rhwng Garndolbenmaen a Chwm Pennant. Mae'r ffermdy dros 200 mlwydd oed a bu'n cael ei ddefnyddio fel lloches i ddringwyr am hanner canrif cyn cael ei adnewyddu a'i ofalu amdano gan yr MBA.

Bythynnod cudd Cymru

Er mai dim ond naw bwthyn sydd dan ofal yr MBA yng Nghymru mae ambell hen adeilad gwag arall yn cuddio yng nghysgodion y tirwedd. Ond, dyw'r sawl sy'n ymddiddori ynddynt ddim am ddatgelu'r cyfan. Meddai Gareth am leoliad llun y bwthyn anhysbys isod sydd yng Nghymru:

"Wel, dim ond o amgylch stof y bwthyn mae datgelu'r gyfrinach yna. Mae hyd yn oed yr enwau a'r lleoliadau'n cael eu cadw'n gyfrinach mewn grwpiau bothies ar y cyfryngau cymdeithasol."

O, pe bai waliau'n gallu siarad!

Bothy cudd yng NghymruFfynhonnell y llun, Gareth Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Bwthyn cudd yng Nghymru

Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn 2021.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig