Sioe Cyffylliog a Bontuchel yn dathlu hanner canrif

Disgrifiad,

Gwyliwch archif o Sioe Cyffylliog a Bontuchel 1975. Ffilmwyd y golygfeydd yma gan Emyr Lloyd, Tre Ddol, Rhuthun

  • Cyhoeddwyd

Mae un o sylfaenwyr Sioe Cyffylliog a Bontuchel wedi cael ei anrhydeddu'n llywydd hanner canrif ers y sioe gyntaf un yn 1975.

Roedd Emrys Williams yn ffermwr ifanc 20 oed pan cynhaliwyd y sioe gyntaf ar gaeau fferm ei dad yn 1975, ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun.

Eleni bydd y sioe, sy'n dod â chymunedau gwledig yr ardal at ei gilydd, yn cael ei chynnal ym mhentref Cyffylliog ar 23 Awst.

Ac yn ôl Emrys, sy'n parhau ar bwyllgor y sioe ers y pwyllgor cyntaf un, "mae'n bwysig iawn fod y sioe fach yma yn cynnal cymdogaeth, ac yn mynd o nerth i nerth".

Emrys Williams, llywydd y sioe, a'i fam Alwena Williams - dau sydd wedi rhoi eu hamser i Sioe Cyffylliog a Bontuchel am hanner canrifFfynhonnell y llun, Sioe Cyffylliog a Bontuchel
Disgrifiad o’r llun,

Emrys Williams, llywydd y sioe, a'i fam Alwena Williams - dau sydd wedi rhoi eu hamser i Sioe Cyffylliog a Bontuchel am hanner canrif

Sioe Cyffylliog 1975

Mae Emrys yn cofio ei ddiweddar dad yn derbyn cnoc ar y drws gan un oedd yn awyddus i fenthyg ei gaeau er mwyn cynnal y sioe gyntaf un.

Eglurai: "Dynes o'r enw Mrs Thelma Dracy ddaru alw am baned a dweud fasa hi'n licio cael lle i blant gael sbort yn ystod gwyliau haf a dyma Dad yn dweud gewch chi gae gynna i.

"Roedd yna gryn baratoi i gael y cae yn barod i ryw sports a ballu. Mi orffennodd y diwrnod erbyn amser te a mi oedd yn llwyddiant a phawb wedi mwynhau.

"Y flwyddyn wedyn 'nathon ni'r sioe yn fwy a chael defaid a chŵn – ei gwneud hi'n sioe iawn. Roedd hi'n llwyddiant, a wedyn penderfynu cario 'mlaen o flwyddyn i flwyddyn, nes y daeth hi'n Sioe Cyffylliog a Bontuchel."

Rhaglen  y sioe o 1976 a rhaglen y sioe eleniFfynhonnell y llun, Sioe Cyffylliog a Bontuchel
Disgrifiad o’r llun,

Rhaglen y sioe o 1976 a rhaglen y sioe eleni

Er nad oedd fawr o bwyllgor pan drefnwyd y sioe gyntaf, galwyd am bwyllgor agored er mwyn gweld faint o ddiddordeb oedd yna ar gyfer trefniadau'r ail sioe.

"Mi ddoth yna tua 20 o bobl a ddaru'r 20 fynd ar y pwyllgor, ond cofiwch chi, 'dan ni 'di mynd lawr 'wan i hanner dwsin, mae pethe wedi newid yn arw dros hanner can mlynedd."

Ond yn ôl Emrys, mae chwech diwyd yn gallu bod yn fwy effeithlon na phwyllgor mawr. Dywed hefyd fod y sioe wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf diolch i waed ifanc a gweithgar.

"'Dan i'n lwcus iawn o hogia' ifanc y ffermydd yma. Fasa wedi darfod hebddyn nhw i roi y corlannau defaid i fyny a tasau i'r ceffylau ac i drefnu polion a phethau felly. Hefyd, pobl fel Elin ein hysgrifenyddes, mae hi wedi cael babi cwta fis yn ôl ac yn dal i drefnu!

"Mae'r sioe wedi tyfu'n arw. Dros hanner can mlynedd mae'r swyddogion wedi mynd yn hŷn felly mae'r rhai ifanc ar y pwyllgor wedi rhoi bywyd newydd i'r sioe ac mae fel tasa hi wedi ailgychwyn eto a wedi dod 'nôl yn gryfach."

Blwyddyn gyntaf y sioe yn 1975Ffynhonnell y llun, Sioe Cyffylliog a Bontuchel
Disgrifiad o’r llun,

Blwyddyn gyntaf y sioe yn 1975

Sioe Cyffylliog a Bontuchel 2025

Yn ogystal â chystadlaethau arddangos defaid, ceffylau a chŵn mae cystadlaethau coginio, gwaith llaw, llysiau a ffrwythau a chystadlaethau i'r plant. Er mwyn cystadlu mae'n rhaid byw o fewn 10 milltir i bentrefi Cyffylliog a Bontuchel ond mae'r adran geffylau yn agored i bawb.

Ac yn ôl Emrys, mae'n holl bwysig i ardaloedd gwledig gynnal a chadw sioeau bychain, lleol.

"Mae'r ardal i gyd yn dod at ei gilydd i'r sioe. Mae'r sioe yn rywbeth fedar pawb fod yn rhan ohono fo, dim bwys be' ydi eich petha chi."

Gan y bydd y sioe'n cael ei chynnal ar gaeau ym mhentref Cyffylliog eleni, ym mhenfref Bontuchel fydd hi'r flwyddyn nesaf. Ond eleni mae Emrys yn falch o groesawu sioe 2025 i Gyffylliog, ble cychwynnwyd hi.

Sioe Cyffylliog a Bontuchel yn 2022Ffynhonnell y llun, Sioe Cyffylliog a Bontuchel
Disgrifiad o’r llun,

Arddangos ceffylau yn Sioe Cyffylliog a Bontuchel 2022

Gyda'r trefniadau yn eu lle, dim ond gobeithio am dywydd braf ar gyfer sioe eleni mae Emrys bellach, ond ei obeithion hirdymor i Sioe Cyffylliog a Bontuchel yw "y bydd hi'n parhau."

Ychwanegodd: "Dwi'n siŵr tasa chi yn sefyll ar y cae yna a gweld y corlannau defaid mi fasa chi'n gweld dwy neu dair cenhedlaeth efo'i gilydd yn y sioe, a'r ieuenga' yn edrych mor frwdfrydig â'r hynaf. Mae hynny'n rhoi dipyn o hwb i chi fod y dyfodol yn saff."

Ac ar lefel bersonol, dywed fod cael ei wneud yn llywydd eleni'n "anrhydedd mawr" ac y bydd ganddo waith diolch yn ei araith ar 23 Awst.

Meddai: "Dwi wedi byw yn Cyffylliog ar hyd fy oes, heb symud cam a dwi wedi gweld haelionni pobl yr ardal tuag at y sioe dros y blynyddoedd. Roedd hynny'n holl bwysig yn y blynyddoedd cyntaf wrth i ni ffeindio ein traed.

"Mae trefnu sioe yn fwy o waith na mae rywun yn ei sylweddoli a dwi'n hynod ddiolchgar i drefnwyr ddoe a heddiw."

Sioe Cyffylliog a Bontuchel yn 2022Ffynhonnell y llun, Sioe Cyffylliog a Bontuchel
Disgrifiad o’r llun,

Arddangos defaid yn sioe Cyffylliog a Bontuchel 2022

Trefnu maes Sioe Cyffylliog a Bontuchel yn 2022Ffynhonnell y llun, Sioe Cyffylliog a Bontuchel
Disgrifiad o’r llun,

Trefnu maes Sioe Cyffylliog a Bontuchel yn 2022

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.