Cwpan Rygbi'r Byd: Yr Alban 38-8 Cymru

Alex Callender a sgoriodd unig gais Cymru
- Cyhoeddwyd
Yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2025, colli o 38-8 oedd hanes Cymru yn erbyn Yr Alban.
Doedd yna ddim prinder ceisiau - fe wnaeth Yr Alban sgorio cais o fewn dau funud wrth i Francesca McGhie dirio ond o fewn 14 munud roedd y gêm yn gyfartal (5-5) wedi i gapten Cymru Alex Callender sgorio - ond y naill ochr a'r llall yn methu trosi.
Roedd yna gicio da gan Lleucu George yn yr hanner cyntaf ond Yr Alban oedd yn rheoli ac wedi 18 munud roedd yna gais arall iddyn nhw - Francesca McGhie yn tirio eto ond Helen Nelson yn methu trosi.
Wedi 23 munud fe wnaeth cic Keira Bevan gwtogi'r mantais - tri phwynt hynod o werthfawr i Gymru ond doedd yr Alban ddim yn hir cyn ymestyn y mantais ymhellach (17-8) wedi cais gan Leia Brebner-Holden a throsiad llwyddiannus gan Helen Nelson.
Roedd yna gyfle i Gymru cyn diwedd yr ail hanner wedi iddyn nhw sicrhau cic gosb ond doedd yna ddim sgôr pellach - y sgôr ar yr egwyl felly yn 17-8.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd11 Awst
Roedd yna sgrym i'r Alban ar ddechrau'r ail hanner wedi camgymeriadau gan Gymru - ac yn fuan wedyn cais arall gan Francesca McGhie ac wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 24-8 a'r Alban wedi sicrhau pwynt bonws
Wedi 47 munud Abbie Fleming a Carys Cox ac yna Carys Phillips, Maisie Davies a Sisilia Tuipulotu yn dod ymlaen i Gymru wrth i'r ystadegau nodi bod yr Alban wedi cael 66% o'r meddiant yn yr hanner cyntaf.
Ond roedd Cymru yn ei chael hi'n anodd eto yn yr ail hanner i ffrwyno momentwm yr Albanwyr er i Tuipulotu atal cais arall.
Roedd yna hefyd ergyd arall i'r cochion wedi i Gwen Crabb gael cerdyn melyn wedi tacl uchel ar Elliann Clarke ond ni fanteisiodd yr Albanwyr ar hynny.
Er hynny wedi 63 munud fe wnaeth Yr Alban selio'r fuddugoliaeth wedi i Evie Gallagher groesi, ac wedi i Helen Nelson drosi roedd y sgôr yn 31-8.
Cyn diwedd y gêm cais arall i'r Alban (Emma Orr) - braidd yn ddadleuol y tro hwn - y sgôr terfynol felly wedi trosiad llwyddiannus oedd 38-8 a'r Albanwyr yn dathlu wedi perfformiad ysgubol.
Fe fydd Cymru yn wynebu Canada ym Manceinion ddydd Sadwrn 30 Awst yn eu gêm nesaf yng ngrŵp B, cyn herio Fiji yng Nghaerwysg ddydd Sadwrn 6 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.