Arwerthwr ifanc o Feirionnydd ar restr fer gwobr amaeth

- Cyhoeddwyd
Mae Mart Dolgellau wedi bod yn ganolbwynt gymunedol bwysig i'r dref, a'r ardal yn ehangach, ers blynyddoedd.
Yn 1953 agorwyd safle presennol y Mart, ond mae'r arwerthiant o ddefaid, gwartheg ac offer amaethyddol wedi digwydd yn y dref ers canrifoedd.
Dafydd Davies yw'r prif arwerthwr yno heddiw, ac yn 25 oed mae'n brysur gwneud enw iddo ei hun yn y maes.
Mae Dafydd wedi ei ddewis allan o 300 o arwerthwyr ledled Prydain ar gyfer enwebiad arbennig yn y diwydiant.
Ynghyd â phedwar arall mae ar restr fer ar gyfer gwobr Arwerthwr Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffermio Prydeinig y Farmers Guardian.
Enwebiad 'Arwerthwr y Flwyddyn'
"O'n i'n ffodus iawn i gael fy enwebu ar gyfer gwobr arwerthwr newydd y flwyddyn yn y British Farming Awards," meddai Dafydd.
Dafydd yw'r unig un o Gymru ar y rhestr fer ar gyfer y wobr.
"Mae 'na bump arwerthwr ifanc ar y rhestr fer, gyda'r pleidleisio'n cau ar ddiwedd mis Awst - cawn wybod y canlyniad ganol mis Hydref."

Mart Dolgellau ar ddiwrnod gwerthu
Cafodd Dafydd ei fagu ar fferm Penbryncoch yn Parc, ger Y Bala.
"Es i i Glynllifon ac wedyn i'r coleg yn Aberystwyth. Yna ar ôl graddio ges i swydd efo Farmers Mart yn gwerthu cŵn defaid ar-lein, ac ar ôl hynny ges i gyfle i wneud bach o werthu yma.
"Dwi yn Mart Dolgellau llawn amser ers bron i bum mlynedd, a dwi'n gweithio efo arwerthwr arall, Dic, a Dyfan, sy'n ocsiwnïar dan hyfforddiant."
Mae Dafydd yn hen gyfarwydd â'r gwerthu yn yr ardal - wrth dyfu fyny roedd ei deulu'n mynd ag ŵyn i Mart Y Bala, a'i ddefaid a gwartheg hefyd i Mart Dolgellau.
Dywed Dafydd ei fod yn parhau i helpu ar y fferm deuluol pan mae'n bosib.
"Dwi'n trio helpu Dad i wneud cymaint â fedra i, pan fo amser yn caniatáu."
Bugeilio yn Seland Newydd
Oedd Dafydd eisiau bod yn arwerthwr erioed?
"Na, 'nes i 'rioed feddwl 'swn i'n gwneud y job i ddweud y gwir, achos y cynllun gwreiddiol oedd i fynd yn syth i Seland Newydd ar ôl coleg i fugeilio.
"Ond oherwydd Covid do'n i methu mynd a ges i gynnig y job efo cŵn defaid, a 'nes i dderbyn hi. 'Nes i hynna am flwyddyn a hanner ac es i i Seland Newydd wedyn - ddos i nôl adre' a chael job yma yn y Mart, a dyma ble dwi 'di bod ers hynny."

Dafydd yn gwerthu hyrddod
Y rhan fwyaf o'r amser mae Dafydd yn gweithio'n Nolgellau, ond mae hefyd yn gweithio ym Machynlleth. Mae ei gydweithiwr, Dic, yn arwerthu yn Y Bala gan amlaf.
"Dydd Gwener ydi'n diwrnod prysuraf ni yn y Mart, sef y diwrnod stores – ŵyn stôr (rhai ifanc sydd ddim eto'n barod i'w lladd) bob dydd Gwener a gwartheg stôr bob pythefnos.
"Dydd Llun ma' gennyn ni ŵyn tew (rhai sy'n fwy parod ar gyfer y lladd-dy) yn Nolgellau, Dydd Mercher mae'r ŵyn tew ym Machynlleth, a Dydd Iau ŵyn tew yn Bala."
Nid gwartheg a defaid yn unig mae Dafydd yn ei werthu, gan ei fod yn parhau i werthu cŵn defaid, peiriannau ac offer amaethyddol.
Yr ochr gymdeithasol
Pa agweddau o'r swydd mae Dafydd yn ei fwynhau fwyaf?
"Dwi'n mwynhau'r gwerthu wrth reswm, ond rhan fechan o'r job ydi hynny o gymharu â phopeth arall.
"Gen ti lot o waith yn y cefndir – hel stoc, chwilio am stoc, chwilio am brynwrs, a'r gwaith papur. Cyfran fechan o dy amser sy'n mynd yn y bocs yn gwerthu."
Mae Dafydd yn dweud bod y Mart yn cynnig adnodd gymdeithasol i rai pobl yng nghefn gwlad sy'n gallu byw bywyd eitha' unig ar adegau.
"Ti'n siarad lot efo ffermwyr o ddydd i ddydd. Weithiau cei di ambell i ffarmwr sydd ddim yn gadael y buarth dim ond unwaith yr wythnos pan ddaw nhw lawr i fan'ma ar ddydd Gwener.
"Felly, mae gan y lle 'ma agwedd gymdeithasol bwysig, yn enwedig i'r genhedlaeth hŷn, ac mae'n bwysig bod ni'n ystyried hynny hefyd dydi."

Dafydd wrth ei waith yn arwerthu
'Llai o stoc'
Ydy'r Mart yn brysurach nag y bu yn y gorffennol?
"Mae 'na ddwy ffordd o sbïo ar bethau. 'Dan ni'n teimlo bo' ni'n brysurach rŵan i gymharu â chyfnodau diweddar, ond eto ddim mor brysur ag yr oedd pethau flynyddoedd yn ôl.
"Mae cyfri' stoc y wlad yn disgyn yn ddychrynllyd bob blwyddyn, felly mae 'na lai o anifeiliaid o gwmpas i ddechrau arni, a lot mwy o gystadleuaeth efo Martiau eraill bellach.
"Mae ffeindio'r stoc yn her gan fod nhw mor brin - cafodd rhywbeth fel 10,000 yn llai o loeau eu cofrestru y llynedd i'w gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae niferoedd y defaid yng Nghymru wedi gostwng hefyd."
Ond dywed Dafydd nad prinder stoc yw'r unig her.
"Mae pawb yn trio cael mwy o stoc i ddod drwy eu marchnadoedd, ond ar y llaw arall mae gen ti lot o stoc sy' n mynd yn syth i'w lladd yn y lladd-dai yn syth, felly mae rhaid cystadlu efo rheiny hefyd."

Mae Dafydd yn gweithio ar y fferm yn ardal Penllyn pan nad yw'n arwerthu
Mae Dafydd yn obeithiol am ddyfodol ffermio yng Nghymru, gan ddweud ei fod wastad yn gweld y gwpan yn hanner llawn.
"'Dan ni'n gweld mwy o fois ifanc yn dod i'r Mart dyddia' 'ma, achos y drefn fel arfer oedd bod y mab yn casglu'r anifeiliaid a'r tad yn mynd â nhw i'r farchnad i'w gwerthu. Ond ti'n gweld mwy o ffermwyr 'fengach yn dod i'r farchnad rŵan."
Dywed Dafydd ei fod yn anrhydedd i gael ei enwebu ar gyfer y wobr, gan nodi y byddai ennill hefyd yn gydnabyddiaeth i'r bobl a'r gymuned sydd wedi ei helpu ar y daith.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023