'Mae cymdeithas eisiau i ti gasáu dy hun am fod yn dew'

- Cyhoeddwyd
Wrth i filoedd o bobl droi at gyffuriau i'w helpu i golli pwysau mae un comedïwr o Bort Talbot yn dal ei dir ac yn mynnu'r hawl i fod yn dew ac yn hapus, fel mae e'n disgrifio ei hun.
Mae Stuart Thomas yn perfformio ei sioe gomedi gyntaf, Bad Fatty, yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn Awst 2025. Yn y sioe mae Stuart yn sôn am ei brofiadau yn tyfu fyny yn 'dew ac yn cwiar' ar fferm ddefaid ger Port Talbot.
Bu Stuart yn siarad gyda Cymru Fyw am yr ysbrydoliaeth tu ôl i'w sioe: "Dwi wedi cael amser mwy anodd am fod yn dew nag am fod yn cwiar achos mae'n fwy amlwg i bobl. Mae pobl yn gweld fi ac yn gweld person tew.
"'Bad fatty' yw'r person tew dyw cymdeithas ddim ishe i ti fod. Mae'n berson tew sy' ddim yn trio colli pwysau ac sy' ddim yn casáu ei hunan. Mae'n berson tew sy'n hapus i fod fel maen nhw.
"Mae cymdeithas eisiau i ti gasáu dy hun ac i deimlo cywilydd a chuddio.
"Yn y sioe dwi'n datblygu'r syniad fod bod yn berson tew yn fantais a dwi'n cael lot o hwyl gyda hynny.
"Wedi'r cyfan corff ti yw e. Os ti eisiau gwneud Ozempic mae hynny i fyny i ti. Dy gorff di, dy ddewis di."

Yn y gyfres o sioeau yng Nghaeredin rhwng 18 a 24 Awst mae Stuart hefyd yn sôn am y gamdriniaeth mae wedi'i gael am fod yn dew – ond yn ymdrin â'r pwnc gyda hiwmor.
Meddai: "Dwi ddim yn gweld tew fel gair drwg. Gair sy'n disgrifio yw e a fyddwch chi ddim yn pechu fi o gwbl yn galw fi'n dew. Mae fel dweud bod gen i lygaid brown.
"Ond mae bod yn dew wedi arwain at mwy o gasineb tuag ata'i achos mae'n amlwg yn syth. Ti methu osgoi e – a dwi ddim yn edrych fel beth fyddai pobl yn meddwl fel stereoteip o berson cwiar. Mae pobl yn gweld fi ac yn gweld person tew yn hytrach na person cwiar."
Mae'r comedïwr, sy'n byw ym Manceinion erbyn hyn, wedi bod yn perfformio standyp ers y cyfnod clo a dim ond yn y cyfnod hynny wnaeth e sylweddoli ei fod yn cwiar, meddai.
"Do'n i ddim yn siŵr yn union beth oeddwn i. Ond yn ystod y cyfnod clo oedd cymaint o amser i feddwl a dyna pryd wnes i sylweddoli mai dyna pwy ydw i a dyna sut dwi'n teimlo."

A oedd hi'n anodd i dyfu fyny yn cwiar ym Mhort Talbot felly?
Meddai: "Oedd a nac oedd. Mae'n sicr yn well dyddiau yma i gymharu â'r cyfnod pan o'n i'n tyfu fyny. O'n i heb ddod allan nes y cyfnod clo pan o'n i'n 28 oed.
"Mae Prydain yn fwy croesawgar erbyn hyn i bobl cwiar. Yn tyfu i fyny byddwn i byth wedi meddwl y byddai hynny'n digwydd ond mae wedi ac mae'n ffantastig.
"Mae Port Talbot erbyn hyn wedi cael digwyddiad Pride – a byddwn i byth wedi meddwl fyddai hynny'n digwydd."
Mae 'na deimlad o dristwch ganddo yn edrych yn ôl ar ei blentyndod: "Roeddwn i'n teimlo 'mod i eisiau dianc a gweld y byd, ac mae comedi wedi caniatáu i fi wneud hynny.
"Mae comedi yn gwneud pawb yn gyfartal. Mae pawb yn y maes yn tynnu coes ei gilydd ond mae'n le cyfeillgar. Mae'r sîn ym Manceinion yn teimlo fel cymuned.
"Mae'r sîn gomedi yng ngogledd Cymru yn ffantastig hefyd gyda sawl act gwych yn yr iaith Gymraeg.
"Mae 'na agwedd dosbarth gweithiol mae pobl yn rhannu yn y gogledd ac hefyd mae'r treftadaeth diwydiannol mae pawb yn rhannu. Felly mae dipyn o gymysgu rhwng gogledd Cymru, Manceinion a Lerpwl yn y byd comedi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024