Cynllun ailgylchu poteli i wella sefyllfa sbwriel Yr Wyddfa?

- Cyhoeddwyd
Fe fydd cynllun newydd i ailgylchu poteli plastig a gwydr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o sbwriel sy'n cael ei adael ar fynydd uchaf Cymru, yn ôl ymgyrchwyr.
Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr yn casglu dros 1,500kg o sbwriel o'r Wyddfa bob blwyddyn.
Ond maen nhw'n gobeithio y bydd cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig arian neu dalebau i bobl pan maen nhw'n dychwelyd poteli neu ganiau gwag i'w hailgylchu yn cael effaith ar y sefyllfa ar lethrau mynyddoedd Eryri.
Mae swyddogion y parc cenedlaethol yn dweud bod lefelau sbwriel ar Yr Wyddfa wedi sefydlogi, er bod nifer yr ymwelwyr yn dal i gynyddu.
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd24 Medi 2024
Mae'r parc cenedlaethol ynghyd â sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Eryri a Trash Free Trails yn trefnu dros 100 o sesiynau codi sbwriel bob blwyddyn.
Yn ôl gwirfoddolwyr, mae rhan fwya'r sbwriel yn cael ei adael ar lethrau'r Wyddfa ei hun.
Mewn sesiwn dwy awr ar Lwybr Llanberis yr wythnos ddiwethaf, cafodd 277 o eitemau un-tro eu codi ar hyd tri chilometr (1.8 milltir) o'r llwybr.
Sut fath o sbwriel sy'n cael ei adael ar y mynydd?
Plastig oedd y deunydd mwyaf cyffredin, gyda phecynnau bwyd yn arbennig o niferus, yn ôl Trash Free Trails.
Roedd 5% o'r eitemau yn fagiau baw cŵn.
Roedd 18% o'r eitemau yn weips gwlyb neu hancesi papur.
Roedd 10% o'r sbwriel gafodd ei gasglu yn wastraff ysmygu.
Roedd 6% yn weddillion ffrwythau.
Dywedodd Owain Thomas, sy'n gwirfoddoli yn gyson yn y digwyddiadau codi sbwriel: "Mae'n rhywbeth i'w wneud yn fy amser sbâr sy'n rhoi boddhad, ond y broblem yw nad oes terfyn i'r peth - gallwch chi lanhau sbwriel dydd Sadwrn, ac mae o i gyd yn ôl yno erbyn dydd Mercher.
"Mae'n gallu teimlo fel eich bod chi ar long sy'n suddo weithiau - rydych chi'n gyson yn ceisio taflu'r dŵr allan, ond mae mwy a mwy yn dod i mewn."

Mae'r ymdrech i gadw'r mynydd yn daclus yn gallu teimlo "fel eich bod chi ar long sy'n suddo," meddai Owain Thomas
Mae'r parc cenedlaethol yn ceisio lleihau faint o sbwriel sy'n cael ei adael dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'r grwpiau ymgyrchu yn cyfeirio yn benodol at "lygredd un-tro", ac maen nhw'n dweud y bydd cynllun newydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Bydd y cynllun, sydd i fod i ddechrau yn 2027, yn gweld pobl yn cael cynnig arian neu dalebau pan maen nhw'n dychwelyd poteli neu ganiau gwag i'w hailgylchu neu ailddefnyddio.
Bydd cynlluniau tebyg yn dechrau mewn rhannau arall o'r DU bryd hynny hefyd.

Mae Heather Friendship-Kay yn dweud bod cynlluniau tebyg wedi gweithio mewn gwledydd eraill
"Yng Nghymru mae 28% o'r llygredd un-tro 'da ni'n ei gasglu yn bethau fyddai'n gallu cael eu cynnwys fel rhan o'r cynllun dychwelyd," meddai Heather Friendship-Kay o Trash Free Trails.
"Felly, dros nos, gallwn ni gael gwared â bron i draean o'r eitemau hynny sy'n cael eu gadael ar ein llwybrau.
"Ry' ni wedi gweld y gallai hyn weithio, yng Ngweriniaeth Iwerddon fe wnaethon nhw lansio cynllun tebyg yn Chwefror 2024 a chafodd biliwn o boteli a chaniau eu dychwelyd o fewn blwyddyn."

Gallai cynllun y llywodraeth newid y ffordd mae pobl yn meddwl am wastraff un-tro, yn ôl Rory Francis o Gymdeithas Eryri
Ychwanegodd Rory Francis, cadeirydd Cymdeithas Eryri: "Mae pobl wastad yn dweud wrthon ni na ddylen ni orfod treulio cymaint o amser yn glanhau ar y mynydd.
"Byddai cynllun dychwelyd yn newid y ffordd 'da ni'n meddwl am eitemau un-tro.
"Ar hyn o bryd mae cwmnïau diodydd yn disgwyl i bobl fel ni fod yn gymorth drwy godi eu sbwriel nhw, ond gobeithio gall y cynllun yma newid hynny."
Ond mae ymgyrchwyr yn cydnabod fod sbwriel ar Yr Wyddfa yn broblem gymhleth, ac nad yw'n debygol o gael ei datrys gan lywodraethau neu gwmnïau diodydd yn unig.
Dywedodd Etta Morgan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae newid hir dymor yn ddibynnol ar weithredoedd pob unigolyn sy'n ymweld â'r ardal.
"Rydyn ni'n annog pob ymwelydd i gymryd cyfrifoldeb personol am eu heffaith ar yr ardal drwy sicrhau eu bod yn mynd ag unrhyw sbwriel adref gyda nhw, yn parchu cymunedau lleol ac yn helpu sicrhau fod Yr Wyddfa yn parhau i fod yn amgylchedd diogel a chynaliadwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.