Y crys sy'n cofio cysylltiad Casnewydd â Gwlad y Basg
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Mae ffans tîm pêl-droed Casnewydd nawr yn cael gwers hanes wrth wisgo crys oddi cartref newydd y clwb.
Mae'r crys yn streipiau coch a gwyn, fel crysau Athletic Club Bilbao, er mwyn cofio am gysylltiad rhwng ardal Casnewydd a Gwlad y Basg.
Ac ar y crys mae enwau 36 o blant a ddaeth i fyw mewn cartref yng Nghaerllion, ger Casnewydd yn 1937, er mwyn dianc oddi wrth Ryfel Cartref Sbaen.
"'Naeth y Rhyfel Cartref ddechrau yn 1936, ac erbyn 1937 roedd y sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn ddyrys iawn," meddai Dr Sian Edwards o Brifysgol Caerdydd.
Er mwyn achub bywydau plant, cafodd rhai eu hanfon dramor i ffwrdd o'r ymladd.
"Daeth tua 4,000 i Brydain, ac ym mis Gorffennaf 1937, cyrhaeddon nhw Gymru. Roedd pedwar cartref yng Nghymru gydag un yng Nghaerllion, ac fe ddaeth 36 ohonyn nhw i hwnna.
"Er mwyn eu hachub nhw oedd e. Yn aml iawn roedd eu teuluoedd nhw wedi brwydro yn erbyn Franco, a nifer o'r plant wedi colli rhieni."

Symudodd 36 o blant o Wlad y Basg i fyw i Dŷ Cambrian yng Nghaerllion yn 1937
Pan roedd y plant yn byw yng Nghaerllion, roedden nhw'n canu mewn côr, yn dawnsio gwerin ac yn chwarae pêl-droed.
Roedden nhw'n chwarae gemau pêl-droed ar hyd a lled de Cymru, ac yn un o dimoedd mwyaf llwyddiannus y wlad.
Y syniad tu ôl i hyn oedd i godi ymwybyddiaeth am stori'r plant ac i godi arian, eglurodd Sian.
"Roedd 'na wirfoddolwyr a mudiadau dyngarol yn codi ymwybyddiaeth ac arian. Doedd Llywodraeth Prydain ddim am roi arian o gwbl – roedden nhw'n fodlon i'r plant i ddod, ond doedden nhw ddim am ariannu'r cartrefi ar eu cyfer nhw."
Roedd Tŷ Cambrian yng Nghaerllion yn sefyll allan am wneud ymdrech fawr i godi arian, ac wedi cael llawer o gefnogaeth yn lleol.
Arhosodd nifer o'r plant yn y cartref am ddwy flynedd, gyda rhai yn penderfynu aros ac ymgartrefu yn yr ardal.
"Roedd y cartref yng Nghaerllion yn sefyll allan am y gefnogaeth"
Trafod y crys ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru
Syniad Neal Heard, cyfarwyddwr creadigol Clwb Pêl-droed Casnewydd oedd y crysau.
Roedd Neal yn gwybod am y stori, ond roedd yn dweud fod yr hanes dal yn anghyfarwydd i lawer o bobl leol.
"Dwi wedi synnu faint o bobl Casnewydd sydd wedi dweud 'dwi byth wedi clywed am y peth'," meddai.
"Dwi wrth fy modd gyda'r stori yma, ac ro'n i'n meddwl sut allwn ni dynnu sylw ato."
Roedd nifer o bobl yng Ngwlad y Basg ddim yn gwybod am y cysylltiad 'chwaith.
Mae Begotxuo Olaizola, sydd yn byw yno, yn falch ei bod hi a phawb arall yn cael dysgu am stori hapus o gyfnod oedd yn "ofnadwy" yn hanes ei gwlad.
"Yn anffodus, fel gwlad rydyn ni'n anwybodus iawn. Diolch i'r clwb pêl-droed i'n hatgoffa ni am yr help.
"Mae'r bobl wedi dechrau siarad, ac mae lot o straeon wedi eu darganfod. Ti'n anghofio. Mae solidarity yn bwysig, a ti methu byw heb bobl eraill.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn."
Geirfa
gwisgo / to wear
oddi cartref / away
cysylltiad / connection
Gwlad y Basg / Basque Country
cartref / a home
dianc / to escape
Rhyfel Cartref Sbaen / Spanish Civil War
dyrys / problematic
achub / to save
brwydro / fighting
hyd a lled / length and breadth
llwyddiannus / successful
codi ymwybyddiaeth / raise awareness
gwirfoddolwyr / volunteers
mudiadau dyngarol / humanitarian organisations
bodlon / happy
ariannu / to fund
ymdrech / effort
cefnogaeth / support
lleol / local
penderfynu / to decide
ymgartrefu / set up home
cyfarwyddwr creadigol / creative director
anghyfarwydd / unfamiliar
synnu / surprised
tynnu sylw / draw attention
cyfnod / period
anffodus / unfortunately
anwybodus / ignorant
atgoffa / to remind
darganfod / to discover
anghofio / to forget
diolchgar / grateful
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd11 Awst