Laura Deas â gobaith o fedal yn y sled sgerbwd

  • Cyhoeddwyd
Laura DeasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Laura Deas o Wrecsam yn bedwerydd yng nghystadleuaeth y sled sgerbwd ar ôl dwy ras yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn PyeongChang, De Corea.

Fe ddaeth hi'n chweched yn y ras gyntaf, ond llwyddodd i gael yr ail amser cyflymaf yn yr ail ras, gan olygu ei bod yn y pedwerydd safle ar gyfanswm amser.

Jacqueline Loelling o'r Almaen sydd yn arwain y gystadleuaeth ar hyn o bryd, gyda Janine Flock o Awstria yn ail a Lizzy Yarnold, y pencampwr Olympaidd presennol sydd hefyd yn cynrychioli Prydain, yn drydydd.

Ond mae hi'n agos iawn o ran amseroedd, gyda Deas 0.17 eiliad yn unig y tu ôl i Loelling sy'n gyntaf.

Roedd dwy ras yn cael eu cynnal ddydd Gwener, a bydd y ddwy ras olaf yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn.

Y person sydd â'r cyfanswm amser cyflymaf ar ôl y pedair ras fydd yn ennill y fedal aur.