Ysgol yng Ngwynedd yn brwydro yn erbyn gwylanod

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Eifion Wyn

Ar ôl cael trafferthion mawr gyda gwylanod dros y blynyddoedd, ddaeth i binacl yr haf diwetha', mae Ysgol Gynradd Eifion Wyn ym Mhorthmadog wedi cael ymwelwyr newydd i geisio taclo'r broblem.

Roedd y gwylanod yn nythu ar do'r ganolfan hamdden gerllaw ac wrth i rai o'r cywion ddisgyn ar lawr iard yr ysgol, roedd yr adar wedi dechrau hedfan lawr at y safle, gan godi ofn ar ddisgyblion, staff a rhieni.

Roedd y broblem cynddrwg y llynedd bod y plant wedi gorfod aros tu fewn i'r adeilad ar un o adegau poetha'r flwyddyn am ei bod yn rhy beryglus iddyn nhw fod allan ar yr iard.

Fe aeth Cyngor Gwynedd ati i ymchwilio i ffyrdd o daclo'r broblem, gan ddewis yn y diwedd i gael cwmni arbenigol yno gyda'u hebogiaid, yn y gobaith y byddan nhw'n dychryn y gwylanod môr o'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd wedi dewis cael cwmni arbenigol draw i'r ysgol gyda'u hebogiaid

Mae gwylanod yn rhywogaeth sydd wedi'i warchod, felly roedd yr opsiynau o ran delio â nhw'n eitha' cyfyng.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, sydd hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Eifion Wyn: "Fydd yr adar ysglyfaethus yma'n dod yma rŵan bob wythnos ac mi fydd gwylanod y môr yn gweld bod nhw yma ac mi fydd hynny'n nadu nhw rhag nythu yma.

"Gawson ni broblemau mawr y llynedd am fod gwylanod yn yr haf wedi nythu ac yn amddiffyn eu cywion ac yn ymosod a dychryn y plant.

"Dwi'n falch o weld fod y cyngor wedi cymryd camau o flaen llaw i stopio'r gwylanod rhag nythu eleni.

"Mae'n ffordd naturiol a chost effeithiol - er nad oes 'na bris ar ddiogelwch plant wrth gwrs. Ond mi fasa gosod sgaffaldiau mawr yma'n llawer mwy costus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylanod yn rhywogaeth sydd wedi'i warchod

Mae pennaeth yr ysgol, Carys Jones, yn hapus gyda phenderfyniad y cyngor i ddefnyddio hebogiaid: "Dwi'n teimlo bod hyn yn delio efo'r broblem yn y ffordd orau.

"Mae'n ffordd naturiol, does 'na ddim niwed yn cael ei wneud i'r gwylanod. Ond eto, ar yr un pryd, y peth pwysica' i ni ydy cadw'n plant, staff, rhieni ac unrhyw ymwelwyr i'r ysgol yn ddiogel.

"Mae'r plant 'di cael modd i fyw'n gweld yr adar - mae 'na ddau hebog, Sam a Meg, 'di cael dod i'n gweld ni i'r ysgol.

"Roedden nhw'n agor eu hadenydd yn fawr, led y pen, ac roedd y plant yn rhyfeddu pa mor fawr oedd yr adar.

"Mae'r gwylanod wedi bod yn gonsyrn go iawn i ni'r haf diwetha'. Gawson ni dipyn o achosion lle'r oedd yr adar yn ymddwyn yn ymosodol iawn, yn hedfan yn isel a gwneud sŵn.

"Roedden nhw'n dychryn y plant ac roedd gan rai rhieni ofn dod yma dweud gwir. Hefyd roedd o'n achosi problem am nad oedden ni'n gallu gadael y plant allan ar yr iard amser chwarae."

Efallai nad ydy'r cynllun hwn yn lladd dau dderyn ag un ergyd yn llythrennol, ond mae yna obaith y bydd yn cael gwared ar y gwylanod, ac yn rhoi agoriad llygad i'r disgyblion i drefn byd natur ar yr un pryd.