Staff cyflogedig llyfrgelloedd wedi gostwng 20%

  • Cyhoeddwyd
LlyfrgellFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ffigyrau newydd wedi dangos bod llai o wasanaethau ar gael mewn llyfrgelloedd wrth i nifer y staff sy'n derbyn tâl ostwng.

Mae ystadegau'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) yn dangos bod nifer y staff taledig wedi gostwng 20% rhwng 2012/13 a 2016/17 - o 1,112 i 890.

Dros yr un cyfnod bu cynnydd o 1,300% yn nifer y gwirfoddolwyr - o 93 i 1,288.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) bod cynghorau'n gorfod defnyddio "ffyrdd dyfeisgar" o gadw gwasanaethau mewn cyfnod o doriadau.

Dibynnu ar wirfoddolwyr

Dywedodd Prif Weithredwr CIPFA, Rob Whiteman bod llyfrgelloedd "yn parhau i geisio bod wrth galon eu cymunedau".

"Ond, ar y cyfan, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig i bobl yno yn gostwng," meddai.

Ychwanegodd Mr Whiteman y byddai nifer o lyfrgelloedd wedi gorfod cau heb gymorth gwirfoddolwyr.

Mae ffigyrau diweddaraf CIPFA yn awgrymu bod 290 o lyfrgelloedd ar agor yng Nghymru, ond mai dim ond 155 o staff sydd â chymwysterau proffesiynol sydd yma.

Dywedodd CLlLC bod "toriadau parhaus i gyllidebau" yn golygu bod cynghorau'n gorfod ystyried "ffyrdd dyfeisgar a gwahanol" i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys gweithio gyda chymunedau i gadw llyfrgelloedd ar agor.