Mwy o bobl ifanc yn defnyddio llyfrgelloedd

  • Cyhoeddwyd
llyfrgelloeddFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae dros hanner pobl ifanc Cymru'n defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ôl gwaith ymchwil.

Dangosodd yr astudiaeth gan y Carnegie UK Trust fod 51% o bobl rhwng 15 a 24 oed wedi defnyddio llyfrgelloedd yn 2016 - cynnydd o 9% ers 2011.

Yn gyffredinol, mae'r defnydd o lyfrgelloedd wedi cynyddu o 45% i 46% dros gyfnod o bum mlynedd.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod cynnydd wedi bod hefyd ymhlith teuluoedd â phlant cyn oed ysgol (7%) a phlant cynradd (3%).

Dywedodd Prifweithredwr Carnegie UK, Martyn Evans: "Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn parhau'n adnodd dinesig hynod boblogaidd yng Nghymru a gweddill y DU, ac mae'n addawol iawn bod cynnydd wedi bod yn nefnydd llyfrgelloedd yng Nghymru ymhlith teuluoedd ifanc yn ogystal â phobl ifanc."