Tywydd gaeafol yn arwain at gau dros 230 o ysgolion
- Cyhoeddwyd

Eira ar stryd fawr Llanberis fore Mawrth
Cafodd dros 230 o ysgolion eu cau yn y gogledd a'r gorllewin ddydd Mawrth, wedi i eira ddisgyn mewn sawl ardal.
Fe rybuddiodd yr heddlu fod nifer o ffyrdd yn beryglus hefyd, gan gynnwys yr A55 rhwng Ynys Môn i Wrecsam.
Mae rhybudd am gawodydd o eira yn dal mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o'r wlad.
Mae'r rhybudd melyn - byddwch yn barod - yn berthnasol tan 23:55, ac yn debygol o effeithio ar bob sir yn y wlad.

Cafodd dros 230 o ysgolion eu cau ddydd Mawrth - y rhan fwyaf o'r rheiny yn y gogledd.
Gwefannau'r cynghorau:
Cafodd holl gampysau Coleg Menai eu cau, ac roedd Coleg Meirion-Dwyfor ynghau i ddysgwyr ond ar agor i staff.

Disgwyl mwy o eira
Dywedodd awdurdodau lleol Cymru wrth BBC Cymru eu bod yn hyderus fod eu cyflenwadau halen yn ddigonol er mwyn graeanu'r ffyrdd dros y dyddiau nesaf.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn o ragor o eira dros nos nos Fercher a dydd Iau.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Golygfa cerdyn Nadolig yn Dinas, Caernarfon fore Mawrth
Rhybuddiodd prif weithredwr elusen i'r digartref yng Nghaerdydd y gallai pobl farw yn yr oerfel dros y dyddiau nesaf.
Ond mae cynghorau Caerdydd, Casnewydd a Gwynedd wedi dweud eu bod eisoes yn cymryd camau i roi cymorth i'r digartref mewn tywydd garw.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw ar bobl i ofalu am gymdogion bregus yn ystod y tywydd oer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018