Cyhoeddi arolwg Dydd Gŵyl Dewi BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru Ewrop

Mae etholwyr yng Nghymru'n fwy negyddol wrth ystyried rhagolygon economaidd Cymru ar ôl Brexit, yn ôl arolwg Dydd Gŵyl Dewi blynyddol BBC Cymru.

Roedd yr arolwg, gafodd ei gynnal gan ICM Unlimited ar ran BBC Cymru, hefyd yn cynnwys cwestiynau ar arferion pleidleisio pobl, a'u barn ar bynciau fel treth ar blastig tafladwy, bwlio ac aflonyddu yn y gweithle.

Pan ofynnwyd am effaith Brexit ar economi Cymru, dywedodd 49% y byddai'n cael effaith negyddol gyda 24% o'r farn y byddai'n cael effaith gadarnhaol.

Pan gafodd yr un cwestiwn ei ofyn yn arolwg 2017, dywedodd 44% eu bod yn credu y byddai Brexit yn cael effaith negyddol, gyda 33% yn dweud y byddai'n beth positif.

Llafur ar y blaen

O ran sefyllfa ariannol bersonol, roedd 14% yn meddwl y byddai Brexit yn cael effaith bositif, 36% yn dweud y byddai'n cael effaith negyddol a 41% yn dweud na fyddai'n gwneud gwahaniaeth.

Disgrifiad,

Athro Awan-Scully: Arolwg barn yn awgrymu bod fawr o newid yn sefyllfa'r pleidiau

Yn etholiadau San Steffan, dywedodd 49% y bydden nhw'n pleidleisio Llafur, gyda'r Ceidwadwyr ar 32%, Plaid Cymru ar 11%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5%, UKIP ar 2% ac eraill ar 3%.

Dywedodd yr Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru y byddai'r canlyniadau hynny ar ogwydd cyffredinol yn golygu bod sedd Preseli Penfro yn symud o'r Ceidwadwyr i Lafur, gan ragamcanu y byddai hynny'n gadael Llafur gyda 29 AS, y Ceidwadwyr gyda saith a Phlaid Cymru â phedwar.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd bron i hanner y bobl yn yr arolwg eu bod nhw'n ffafrio gweld y Cynulliad yn cael mwy o bwerau

Yn etholiadau'r Cynulliad, fe awgrymodd yr arolwg y byddai Llafur yn ennill 30 sedd (27 etholaeth a thair ranbarthol), Plaid Cymru'n cael 15 sedd (chwe etholaeth, naw rhanbarthol), a'r Ceidwadwyr yn cael 13 sedd (chwe etholaeth, saith rhanbarthol), gydag UKIP yn cael un sedd ranbarthol a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael un sedd etholaeth.

O ran y canrannau ar gyfer etholaethau'r Cynulliad, byddai Llafur ar 40%, Plaid Cymru ar 24%, y Ceidwadwyr ar 22%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%, UKIP ar 5% ac eraill ar 3%.

Ar y bleidlais ranbarthol, y canrannau oedd: Llafur 36%, Plaid Cymru 22%, y Ceidwadwyr 21%, UKIP 8%, y Democratiaid Rhyddfrydol 6%, ac eraill 5%.

Petai'r patrwm yn cael ei efelychu ar draws y wlad, meddai'r Athro Awan-Scully, byddai'n golygu'r canlynol ar gyfer y seddi rhanbarthol:

  • Gogledd Cymru - 2 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru - 3 Llafur, 1 Plaid Cymru

  • Gorllewin De Cymru - 2 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru

  • Canol De Cymru - 2 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru

  • Dwyrain De Cymru - 2 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr, 1 UKIP

Mwy o bwerau

Pan ofynnwyd i bobl ddewis eu hoff opsiwn ar gyfer datganoli, dywedodd 44% eu bod eisiau gweld Cynulliad â mwy o bwerau - yr un ffigwr â blwyddyn yn ôl.

Dyma'r opsiwn sydd wedi bod fwyaf poblogaidd ym mhob arolwg BBC Cymru ers i'r cwestiwn gael ei ofyn yn y ffordd yma yn 2010.

Dywedodd 28% eu bod eisiau cadw pethau fel maen nhw, un pwynt yn is na llynedd, gyda 4% am weld Cynulliad â llai o bwerau, a 12% am ei weld yn cael ei ddiddymu.

Mae'r ffigwr hwnnw wedi aros yn gyson ers refferendwm annibyniaeth yr Alban ym mis Medi 2014, ar ôl codi mor uchel â 23% ym mis Mawrth 2014.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd dros dri chwarter y bydden nhw o blaid treth ar blastig tafladwy

Dim ond 7% ddewisodd annibyniaeth i Gymru fel eu hoff opsiwn, un pwynt canran yn uwch nag yn arolygon 2017 a 2015. Mae'r canran wedi bod o dan 10% ers 2011.

Fe wnaeth 76% ddweud y bydden nhw o blaid treth ar blastig tafladwy, fel cwpanau coffi oedd ond yn cael eu defnyddio unwaith, gydag 17% yn gwrthwynebu.

Cafodd pobl hefyd yn holi ynglŷn â bwlio ac aflonyddu yn y gweithle.

Dywedodd 16% eu bod wedi cael eu bwlio neu eu haflonyddu yn y gweithle yn y pum mlynedd diwethaf, tra bod 6% wedi profi aflonyddu neu ymosodiad rhyw.

Dywedodd 24% eu bod wedi cael eu sarhau ar lafar, a 7% eu bod wedi dioddef o ymosodiad neu drais corfforol.

Fe wnaeth ICM Unlimited gyfweld a sampl cynrychioladol o 1,001 oedolyn 18+ oed dros y ffôn rhwng 8-25 Chwefror 2018. Cafodd y cyfweliadau eu cynnal ar draws Cymru ac mae'r canlyniadau wedi'u pwyso i gyd-fynd â phroffil oedolion Cymru. Mae ICM yn aelod o'r Cyngor Arolygu Prydeinig ac yn dilyn ei reolau.