Gweithwyr rhyw yn 'gyndyn o sôn am ymosodiadau'

  • Cyhoeddwyd
Merched yn sefyll ar y stryd

Mae gweithwyr rhyw yn gyndyn o sôn am ymosodiadau ac achosion o drais yn eu herbyn am eu bod ofn na fyddan nhw'n cael eu cymryd o ddifrif, yn ôl ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru.

Mae Nazir Afzal, ymgynghorydd cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn merched, yn dweud bod achosion yn cael eu trin yn wahanol os ydynt yn cyrraedd y llys.

Yn ôl cyn-brif erlynydd y goron ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr mae'r system gyfiawnder troseddol wedi gwella.

Ond mae Mr Afzal yn dweud bod yn rhaid ystyried o ddifrif y gallai gweithwyr rhyw fod yn ddioddefwyr.

Dywedodd: "Mae'n bwysig ein bod yn cael sgwrs ehangach - nid ymysg arbenigwyr proffesiynol yn unig ond ymhlith y cyhoedd - er mwyn iddyn nhw ddeall bod gweithwyr rhyw yn gallu bod yn ddioddefwyr trais."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nazir Afzal mae achosion o drais yn erbyn merched sydd yn weithwyr rhyw yn cael eu trin yn wahanol yn y llys

Ychwanegodd: "Mae modd i weithwyr rhyw ddioddef ymosodiadau ac mae ymosodiadau arnyn nhw'n ddyddiol."

Mae Cyngor Penaethiaid yr Heddlu yn awgrymu bod "llofruddio gweithwyr rhyw yn parhau i ddigwydd ar raddfa hynod o uchel".

'Ofn am fy mywyd'

Roedd Natalie yn 19 oed pan ddechreuodd weithio fel gweithiwr rhyw yn Abertawe er mwyn ariannu ei dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.

Gydag amser roedd hi'n cael ei gorfodi i weithio ar draws Cymru ac yn cael rhyw gyda hyd at bump o ddynion ar y tro.

"Doedd dim dewis gen i - roeddwn wedi cyrraedd pen fy nhennyn a doeddwn ddim yn gallu cael arian o unrhyw le arall," meddai.

"Weithiau roeddwn ofn am fy mywyd ac yn dianc."

Disgrifiad o’r llun,

Wnaeth Natalie ddim ystyried mynd at yr heddlu am nad oedd hi'n meddwl y bydden nhw yn gwrando arni

Wnaeth hi ddim sôn am yr hyn ddigwyddodd iddi rhag ofn na fyddai rhywun yn ei chymryd o ddifrif.

"Nes i'm meddwl mynd at yr heddlu oherwydd fy mod yn cymryd cyffuriau ac roeddent yn gwybod amdanaf oherwydd fy nibyniaeth ar gyffuriau, fy mhuteindra ac oherwydd fy mod yn dwyn o siopau."

Bellach mae Mr Afzal yn credu bod yn rhaid gwneud mwy i addysgu pobl sy'n cael eu cyflogi gan y system gyfiawnder a'r cyhoedd, er mwyn sicrhau bod tystiolaeth rhywun fel Natalie yn cael ei chymryd o ddifrif.

Cafodd Natalie ofal gan loches Victory Outreach UK a dyw hi bellach ddim yn ddibynnol ar gyffuriau.

Mae hi'n paratoi i fod yn weithiwr cymorth ei hun gan ddweud ei bod eisiau "helpu merched sy'n delio gyda phrofiad tebyg i fi'n hun".