Swyddogion i gosbi 'parcio anaddas' yn Ysbyty Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd parcio ar safle Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod am ddim

Mae Ysbyty Gwynedd wedi cadarnhau bydd swyddogion parcio o Gyngor Gwynedd ar ddyletswydd ar safle'r ysbyty er mwyn cosbi pobl sy'n parcio'n anaddas.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau bydd y swyddogion yn dechrau ar y gwaith o 1 Mawrth, yn dilyn cwynion gan staff a chleifion ynglŷn â pharcio ar y safle.

Mae pryderon ynglŷn â cheir sy'n parcio ar linellau melyn sy'n achosi problemau mynediad ar gyfer criwiau ambiwlans ac ar gyfer cludo nwyddau o amgylch y safle.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ysbyty Gwynedd, Meinir Williams ei bod hi'n "gobeithio byddai'r drefn newydd yn gwella parcio ar y safle".

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhybuddion cosb ond yn cael ei rhoi pan fydd hi'n amlwg fod y gyrrwr wedi anwybyddu gwaharddiadau parcio sydd wedi'i marcio'n glir.

Ychwanegodd: "Tydi'r penderfyniad heb fod yn un hawdd, ond rydym wedi cael ein gorfodi i gymryd y camau yma i sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio'r safle.

"Rydym yn derbyn fod parcio yn gallu bod yn anodd ar rai adegau o'r dydd, ac rydym yn gobeithio bydd y camau newydd yn gwella hyn," meddai.

Bydd y gorfodaeth parcio yn berthnasol yn yr ardaloedd canlynol:

  • Ardal gollwng 20 munud y tu allan i brif fynedfa'r ysbyty;

  • Maes parcio pedair awr ymwelwyr a chleifion;

  • Parcio ar linellau melyn dwbl;

  • Parcio ar balmentydd;

  • Holl safleoedd parcio anabl yr ysbyty.

Mae Ms Williams wedi cadarnhau fod yr ysbyty wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddogion gorfodaeth Cyngor Gwynedd er mwyn darganfod y dulliau gorau i wella parcio i gleifion a staff.

Daeth cadarnhad hefyd na fydd Ysbyty Gwynedd yn elwa'n ariannol o unrhyw ddirwyon, a bydd unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio i wella diogelwch ar y safle ac i gynnal y swyddogion parcio.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon ynglŷn â cheir sy'n parcio ar linellau melyn sy'n achosi problemau mynediad ar gyfer criwiau ambiwlans ac ar gyfer cludo nwyddau o amgylch y safle

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod proses apelio'n bodoli ar gyfer cleifion sy'n parcio am fwy o amser na sy'n cael ei ganiatáu os yw gofynion eu triniaeth yn eu hatal nhw rhag symud wedi pedair awr.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers Ionawr 2009 er mwyn sicrhau fod y safle'n ddiogel ar gyfer ymwelwyr.

"Bydd rhybuddion cosb ond yn cael ei rhoi pan fydd hi'n amlwg fod y gyrrwr wedi anwybyddu gwaharddiadau parcio sydd wedi'i marcio'n glir.

"Mae gan unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi derbyn rhybudd cosb ar gam yr hawl i apelio," meddai.

Bydd parcio ar y safle yn parhau i fod am ddim.