Dau yn ymddiswyddo o bwyllgor Plaid Cymru Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae dau o swyddogion Plaid Cymru yn Llanelli wedi ymddiswyddo o bwyllgor y blaid yn yr etholaeth wrth i ffrae ymysg aelodau waethygu.
Dywedodd Sean Rees, swyddog y wasg y blaid yn lleol, a'r swyddog data Dyfrig Thomas eu bod yn camu o'r neilltu ar unwaith.
Daw hynny wedi i Blaid Cymru yn ganolog wahardd cangen Tref Llanelli yn gyfan gwbl yr wythnos diwethaf yn dilyn ffrae dros ddewis ymgeisydd etholiad cyffredinol 2017.
Roedd y gangen wedi mynnu ymchwiliad i honiadau fod yr ymgeisydd, Mari Arthur, wedi torri rheolau, ond dywedodd Plaid Cymru fod eu gweithredoedd yn niweidio enw da'r blaid.
Y gred yw bod nifer o aelodau'r blaid - o bosib hyd at 25 - bellach wedi gadael oherwydd y ffrae.
'Ofn mwyaf'
Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd Mr Rees: "Rydw i nawr yn teimlo, fel mater o egwyddor, fod y sefyllfa bresennol wedi cyrraedd pwynt ble mae fy nghydwybod yn golygu bod rhaid i mi nawr adael y rôl hon."
Fe wnaeth cadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones gyfarfod ag aelodau ddydd Llun i geisio datrys y sefyllfa - ond gwrthododd gynnal ymchwiliad i'r mater.
Yn ôl un person sydd yn gyfarwydd â'r cyfarfod, fe wnaeth Mr Jones yn hytrach ofyn am weld nodiadau'r cyfarfod ble wnaeth y gangen benderfynu galw am ymchwiliad.
Dywedodd y ffynhonnell, sy'n un o'r aelodau sydd bellach wedi gadael, mai'r pryder oedd fod y blaid yn ganolog yn ceisio cosbi aelodau o'r gangen.
"Mae ein hofnau mwyaf yn dod yn wir - eu bod nhw eisiau penderfynu ar bopeth yn ganolog," meddai.
Y llynedd fe benderfynodd y blaid yn ganolog nad oedd enillydd y bleidlais yn yr hystings lleol - Mr Rees - yn gymwys i gael ei ddewis fel yr ymgeisydd yn Llanelli oherwydd ei bod yn sedd darged.
Cafodd Ms Arthur - oedd yn drydydd yn yr hystings - ei dewis fel ymgeisydd y sedd yn lle hynny, a daeth yn drydydd yn yr etholiad gydag 18% o'r bleidlais.
Yn dilyn hynny fe wnaeth rhai aelodau lleol gwyno fod Ms Arthur wedi torri nifer o reolau, gan gynnwys peidio rhannu set o oriadau i'r swyddfa.
Dywedodd aelodau fod Mr Rees wedi cael ei atal rhag defnyddio cyfrif Twitter Plaid Cymru a'i orfodi i weithio o lyfrgell.
Cafodd dau o'r rheiny wnaeth gwyno - Gwyn Hopkins a Meilyr Hughes - eu gwahardd llynedd.
Fe wnaeth y gangen leol ryddhau datganiad ym mis Chwefror yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r broses o ddewis yr ymgeisydd, y cwynion, a gwaharddiad dau aelod "heb ddilyn y broses gywir".
Ond mewn ymateb fe wnaeth Plaid Cymru wahardd cangen Tref Llanelli dros dro, a hynny "am dorri rheolau sefydlog y blaid".
"Penderfynwyd fod gweithredoedd y gangen yn niweidiol i enw da cyhoeddus y blaid, ac wedi torri rheolau cyfrinachedd y broses gwynion," meddai llefarydd.
Mae Mr Rees, sydd yn gynghorydd tref, a Mr Thomas - gafodd wobr cyfraniad oes gan Blaid Cymru llynedd - yn parhau i fod yn aelodau o'r blaid.
Ond dywedodd y ffynhonnell yn lleol fod pryder y gallai'r ddau gael eu gwahardd, ac y byddai hynny'n arwain at fwy o aelodau lleol yn gadael y blaid.
Mae Plaid Cymru wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2017