Tân mewn hen wyrcws yng Nghaerfyrddin yn 'amheus'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod tân wnaeth achosi difrod i adeilad hanesyddol yng Nghaerfyrddin yn cael ei drin fel un "amheus".
Cafodd tua 20 o ddiffoddwyr eu galw i'r hen wyrcws ar Heol Brewery am 16:50 brynhawn Gwener.
Wedi'r digwyddiad cafodd dau lanc lleol, 14 ac 15 oed, eu harestio ond maen nhw wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Doedd neb wedi eu brifo yn y tân.
Adeilad sy'n dyddio nôl i Oes Fictoria oedd y wyrcws, oedd yn arfer bod yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2018