Mam yn galw am newidiadau sylfaenol i ofal awtistiaeth

  • Cyhoeddwyd
Elin, Joel a PerisFfynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Pen-blwydd Joel (canol) yn 18 oed gyda'i fam Elin a'i dad Peris

Mae mam i ddyn ifanc sydd ag awtistiaeth yn galw am newidiadau sylfaenol yn y ddarpariaeth sydd ar gael i bobl â'r cyflwr er mwyn lleihau'r straen mae unrhyw newid yn gallu achosi iddyn nhw.

Dywed Elin Llwyd Morgan bod angen i blant gael aros yn yr un ganolfan addysg o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd nes eu bod yn 25 oed.

Mae hi hefyd yn galw am lai o wyliau gan bod newid trefn yn eu patrwm dyddiol yn gallu achosi pryder.

Mae'r fam o Lyn Ceiriog, Sir Wrecsam, wedi cadw dyddiadur i raglen Manylu ar BBC Radio Cymru er mwyn rhoi darlun o fywyd gydag oedolyn ifanc sydd ag awtistiaeth.

Newidiadau sylweddol

Mae ei mab Joel yn 21 oed ac ar fin gorffen yng Ngholeg Derwen yn Gobowen - ac yn wynebu newidiadau sylweddol dros yr wythnosau nesaf.

Dywed Elin Llwyd Morgan, sy'n golofnydd a newyddiadurwr: "Taswn i'n cael fy ffordd faswn i'n cael ysgolion ar eu cyfer nhw - ysgolion-come-colegau - lle maen nhw'n cael aros nes yn 25 oed achos mae 'na ystadegau sy'n dweud mai'r oed anoddaf ydi'r oed rhwng 18 a 25 pan maen nhw'n mynd drwy newidiadau hormonaidd a corfforol.

"Basa'n gwneud synnwyr i mi petai rhywle ar eu cyfer nhw nes eu bod nhw'n cyrraedd rhyw oed lle maen nhw'n fwy bodlon yn eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Elin a Joel

Mae Trystan Williams yn brifathro ar academi unigryw ym Mryste lle mae plant yn dechrau yn bedair oed yn hytrach na saith, yr oed maen nhw yn cael ei derbyn i ysgolion arferol ar gyfer plant awtistig.

Er mai dim ond tan y byddan nhw'n 13 oed mae'r disgyblion yn mynd i'r Academi ar hyn o bryd, y bwriad ydy eu cadw ar yr un safle, yn yr un ysgol, tan yn 25 yn y pendraw.

'Problemau dwys'

Dywedodd Trystan Williams, sy'n wreiddiol o Fangor: "Y gair dwi'n defnyddio ydi cliff edge, mae rhywun yn 16 oed - ac wrth gwrs mae plant yn cael gofal da mewn ysgolion - ac wedyn un diwrnod maen nhw'n 16 oed, maen nhw'n gorffen ysgol, ac maen nhw allan i'r byd mawr. Mae'r plant yma efo problemau mor ddwys mae'n holl bwysig cadw nhw ymlaen i 19 neu 25."

Mae'r Venturers Academy yn cael ei ariannu gan adran addysg Lloegr ond hefyd yn derbyn nawdd preifat - a'r hyn sy'n ei gwneud yn wahanol ydy'r ffaith ei bod yn cynnig cyfuniad o ofal addysgiadol a meddygol ar y safle.

Does dim ysgol fel y Venturers Academy yng Nghymru, ond yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, sydd newydd ddod i rym ym mis Ionawr - yn gwyrdroi'r drefn o roi cefnogaeth i unrhyw unigolyn sydd ag anghenion arbennig.

Mi fydd y ddeddf hefyd, meddai'r llefarydd, yn cefnogi pobl ifanc hyd at 25 oed, gan roi plant a phobl ifanc wrth galon y gefnogaeth yna.

Ffynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Elin gyda Joel pan oedd yn fabi

Yn Manylu, mae Elin Llwyd Morgan yn sôn am sut ymosodd Joel arni y llynedd tra roedden nhw'n mynd am dro yn y car.

Mae hi'n amau mai'r straen o feddwl am fynd i'r coleg am ychydig o ddyddiau yn ystod y gwyliau er mwyn i'w rieni gael seibiant wnaeth wneud iddo ymddwyn yn dreisgar.

'Angen sefydlogrwydd

Dywedodd Elin Llwyd Morgan: "Mae'n ofnadwy o siomedig bod hyn wedi digwydd. Mae'n bur debyg mai'r newid sydd ar fai, ac mae'n gwybod ei fod yn mynd i'r coleg fory, er ei fod o'n mwynhau coleg.

"Dwi'm yn gwybod, ond mae jest y busnas routine yma - mae angen sefydlogrwydd arno fo, jest angen peidio cael y newidiadau yma yn ei fywyd o drwy'r adeg."

"Be ddaw ohona ni? Fasa mor rhwydd mewn sefyllfa fel yna i ni gael ein lladd, pan mae rhywun yn gyrru fel 'na neu neud niwed neu anaf difrifol iawn i rywun."

Manylu, dydd Iau, 12:30 ar Radio Cymru, ac ar iPlayer.