'Dim goddef' aflonyddu yn y Cynulliad medd AC

  • Cyhoeddwyd
Jane Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i'r Cynulliad osod esiampl medd Jane Bryant

Bydd polisi parch ac urddas newydd y Cynulliad yn gwneud hi'n "glir" na fydd ymddygiad anaddas yn cael ei oddef medd AC.

Yn ôl Jane Bryant, sy'n cadeirio pwyllgor safonau'r Cynulliad mae'n rhaid i ACau ddarparu arweinyddiaeth glir a chryf ynglŷn â'r diwylliant yn y gwaith. Daw hyn yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.

Dywedodd y bydd y polisi yn cael ei drafod fis nesaf a'r nod yw rhoi hyder i bobl i deimlo y gallan nhw sôn am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynglŷn ag aflonyddu.

Mae'r pwyllgor yn ystyried cryfhau'r gosb fyddai yn cael ei osod ar ACau.

Dywedodd Ms Bryant: "Rydyn ni'n credu bod yn rhaid i'r Cynulliad osod esiampl a darparu arweinyddiaeth glir a chryf ynglŷn â'r math o ddiwylliant yn y gwaith y bydden ni yn hoffi gweld yng Nghymru.

"Rydyn ni yn ystyried ein gweithdrefnau presennol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn briodol ac yn glir.

'Hyderus' i gwyno

"Mae'n rhaid i unigolion deimlo yn hyderus ynglŷn â gallu codi unrhyw bryderon yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol."

Roedd yr AC Llafur wedi gofyn wrth ei staff ei hun os oedden nhw'n gwybod sut i wneud cwyn amdani a'r awgrym oedd nad oedden nhw'n gwybod.

Mae Paul Davies, aelod Ceidwadol o'r pwyllgor yn dweud bod angen i unrhyw system newydd eistedd law yn llaw gyda gweithdrefnau'r pleidiau gwleidyddol.

Cwestiynu os oedd angen system cod ymddygiad gwahanol ar gyfer ACau a gweinidogion wnaeth yr AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Dywedodd Ms Bryant y byddai Comisiynydd y Cynulliad ar gyfer safonau, Syr Roderick Evans QC, yn berson annibynnol fydd yn gallu darparu cyngor a chymorth am unrhyw fater o egwyddor yn ymwneud gydag ymddygiad ACau.