Clefyd prin yn lladd chwech o gŵn mewn deufis
- Cyhoeddwyd
Mae clefyd prin sy'n aml yn achosi marwolaeth wedi lladd 13 o gŵn yng Nghymru, ond mae chwech o'r achosion hynny wedi digwydd yn y deufis diwethaf.
Cyfeirgi Almaenig o'rn enw Sky oedd y diweddara' i gael ei difa oherwydd y clefyd ar 31 Ionawr.
Dangosodd archwiliad post mortem ei bod yn diodde' o glefyd sy'n cael ei adnabod fel Pydredd Alabama, neu Alambama Rot.
Mae ei pherchennog, Mel Mackeprang o Fro Morgannwg, wedi annog perchnogion eraill i fod yn ymwybodol o'r symptomau.
Mae'r symptomau yn cynnwys chwydu, colli chwant bwyd a briwiau ar y croen.
Post mortem
Dywedodd Ms Mackeprang: "Fe ddois i lawr yn y bore ac roedd hi wedi bod yn sal... nes i fynd â hi'n syth at y milfeddyg.
"Roedden nhw'n meddwl mai pancreatitis oedd arni, ond roedd profion yn dangos bod ei harennau'n methu. Wedyn fe gafodd hi drawiad o fath a bu'n rhaid ei difa."
Y tro cyntaf i Bydredd Alabama gael ei weld yn y DU oedd yn 2012, ac roedd yr achos cyntaf yng Nghymru yn Sir Fynwy yn 2014.
Dim ond trwy archwiliad post mortem mae modd adnabod y clefyd, ac mae achosion wedyn yn cael eu cofnodi ar wefan arbennig.
Er bod y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn ymchwilio i'r clefyd, does neb eto'n gwybod beth sy'n ei achosi.
Eisoes eleni mae un achos wedi bod yn Sir Fynwy, tri ym Mhowys, un yn Rhondda Cynon Taf ac un ym Mro Morgannwg.
Mae cyfanswm o 142 o achosion wedi eu cofnodi yn y DU ers 2012, gyda 22 o'r rheini yn 2018.
Angen 'bod yn wyliadwrus'
Dywedodd David Walker, sydd wedi bod yn gweithio gyda sefydliad Vets4Pets i gofnodi'r achosion: "Yn ddealladwy iawn mae hyn yn destun pryder i berchnogion cŵn, ond rydym yn gobeithio bod y cynnydd yn nifer yr achosion yn rhannol oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth o'r clefyd.
"Mae'r clefyd yn dal yn un prin iawn a byddwn yn annog perchnogion i barhau i fynd âu cŵn am dro fel arfer.
"Ry'n ni hefyd yn cynghori perchnogion i beidio cynhyrfu ond i fod yn wyliadwrus os fydd eu ci'n datblygu nriwiau ar y croen sydd heb esboniad."