'Dim penderfyniad' ar drydaneiddio rhan o Fetro De Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar drydaneiddio'r rheilffyrdd i Lyn Ebwy a Maesteg.
Ond mynnodd wrth ACau y byddai'r ddwy ardal yn cael gwell gwasanaeth i Gaerdydd fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Plaid Cymru gyhuddo Llywodraeth Cymru o anghofio am drydaneiddio rhai o reilffyrdd y Cymoedd ar ôl gweld braslun o'r cynigion.
Dyw'r ardaloedd ddim wedi'u cynnwys yn rhan gyntaf y datblygiad, fydd yn canolbwyntio ar y llinellau i'r Rhondda, Cwm Cynon, Merthyr Tudful a Rhymni.
'Gwasanaethau mwy cyson'
Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi ym mis Mai pwy fydd yn cael y fasnachfraint 15 mlynedd i redeg y metro a gwasanaeth Cymru a'r Gororau, sydd dan reolaeth Trenau Arriva Cymru ar hyn o bryd.
Y ddau gwmni sydd ar ôl yn y ras yw KeolisAmey ac MTR.
Yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth dywedodd Mr Jones nad oedd trydaneiddio'r rheilffordd i Lyn Ebwy yn rhan o'r amodau gwreiddiol - rhywbeth gafodd ei herio gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
"Gadewch i mi fod yn hollol glir, bydd gwasanaethau mwy cyson yn rhedeg. Bydd gwasanaethau gwell i'w cael," meddai'r prif weinidog.
"Bydd rhai llwybrau'n cael eu trydaneiddio gyntaf ac wedyn fe fyddwn ni'n edrych ar yr achos busnes yn y dyfodol.
"Allwch chi ddim eu trydaneiddio nhw i gyd ar unwaith. Rydyn ni'n edrych ar ba lwybrau i'w datblygu wrth i amser fynd yn ei flaen."
Fe fydd Llywodraeth Cymru'n cymryd rheolaeth dros draciau ac isadeiledd canolbarth y cymoedd, ond nid y rhai i Faesteg a Glyn Ebwy, fydd yn aros gyda Network Rail.
Y bwriad yw cael gwasanaethau yn rhedeg pedair gwaith yr awr erbyn 2023 ym mhrif ardal y metro, gyda gwasanaeth ddwywaith yr awr i Lyn Ebwy a Maesteg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018