Dewis mabwysiadu plentyn â Syndrom Down
- Cyhoeddwyd
 hithau yn Ddydd Syndrom Down y Byd ar 21 Mawrth, siaradodd Cymru Fyw â Gwyndaf, tad balch iawn Meilyr Tomos, o Sir Benfro:
Mae Meilyr yn 29 oed. Pan ges i a ngwraig, Heather, wybod amdano fe gynta', o'dd e'n bedwar mis, a daeth e aton ni pan odd e'n bum mis oed. Daeth e'n fab cyfreithiol i ni rhyw flwyddyn yn ddiweddarach.
Roedd rheolau yn bodoli yn Nyfed bryd hynny, os oedd un ohonon ni dros 35, oedden ni methu mabwysiadu plentyn 'normal' y's gweden nhw, ac o'n i yn fy 40au erbyn hynny.
Fuon ni'n trafod am fisoedd ynglŷn â beth fydden ni'n medru ymdopi ag e, o ran anghenion arbennig.
Ar ôl i ni gael Meilyr, dyma ni'n darganfod mai ni oedd yr unig rieni o fewn Dyfed oedd yn chwilio am blentyn ag anghenion arbennig, felly tasen ni ddim wedi ei dderbyn e, falle fydde fe wedi gorfod mynd tu fas i Gymru. Mae hynny'n drist iawn.
Bywyd annibynnol
Dyw e ddim wedi cael bywyd mor wahanol â hynny, ar y cyfan. Mae'n byw yn Abergwaun nawr gyda dau ffrind a gofalwr ac yn byw bywyd eithaf annibynnol.
Mae'n cael ychydig mwy o drafferth gydag ambell i beth, fel cyfri' arian - mae'n gallu ei wneud e ond mae'n cymryd sbel a s'dim yr amynedd ganddo.
Mae'n gwirfoddoli gyda'r Theatr Genedlaethol, a bob hyn a hyn mae'n helpu i gyfri'r arian ar ôl perfformiadau sydd yn addysg ac yn brofiad da iddo.
Mae hefyd yn helpu yn y swyddfa ac ym mlaen y tŷ. Falle 'neith hwn arwain at swydd arall yn y dyfodol, pwy a ŵyr.
Ond mae'n arlunydd da - gwell na fi - mae e wedi gwerthu ambell i lun, a 'sai 'di gwerthu dim!
Ac mae'n canu'r piano yn wych. Mae'n un o'r organyddion yng nghapel Hermon, Abergwaun, ac yn chwarae tua dwywaith y mis.
Mae hefyd yn cael y cyfle i chwarae'r piano yn yr Eisteddfod a Sioe Hwlffordd bob blwyddyn, ac wedi recordio crynoddisg.
Ddim yn 'one size fits all'
Mae pobl sydd â Syndrom Down â gallu gwahanol i'w gilydd - mae Meilyr ychydig uwch na'r average mae'n siŵr. Mae rhai wedi pasio arholiadau ac â swyddi, ond dyw rhai methu siarad, felly, mae'r ystod yn eang iawn.
Ond mae hynny'n union fel o fewn cymdeithas yn gyffredinol - mae'r wraig yn well yn academaidd, ond dwi'n well gyda fy nwylo. Mae'r un gwahaniaeth o fewn cymdeithas Syndrom Down - dyw e ddim yn one size fits all - ac mae angen i bobl sylweddoli hynny.
Mae pobl yn canolbwyntio ar y Down's, yn hytrach na'r person weithiau. Daeth dynes i siarad â Heather yn y dref rhywbryd, a gofyn iddi hi ynglŷn â beth oedd Meilyr yn ei wneud, er fod Meilyr yn sefyll yno o'i blaen.
Dyma Heather yn gofyn iddo "Beth wyt ti'n ei wneud, Meilyr?" a'i ateb oedd "'Sai'n gwybod - dim ond hanner brên sydd gyda fi...!" Rhoddodd hi yn ei lle yn wych - mae e bob amser wedi bod yn gymeriad!
Ond ar y cyfan, dydyn ni ddim wedi diodde' llawer o agwedd negyddol.
Pan 'naethon ni fabwysiadu, dywedodd rhai y byddai pobl yn croesi'r stryd er mwyn ein hosgoi ni, ond mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir - mae pobl yn croesi'r stryd er mwyn siarad â Meilyr.
Os 'dyn ni eisiau picio i'r dre' am awr, fydd e'n cymryd dros ddwyawr i ni oherwydd fod pobl yn dod i siarad â ni.
Mae Syndrom Down yn ei ddal yn ôl mewn ambell i ffordd, ond dim llawer - ond mae hunan-hyder arbennig gydag e - 'neith e siarad ag unrhyw un, unrhyw le. Ac mae ei synnwyr digrifwch yn un milain - ry'n ni'n cael llawer o sbort!
Mae cael Meilyr wedi gwneud i ni gydnabod pobl ag anghenion yn gyffredinol, ac rydyn ni'n fwy ymwybodol o ran peidio siarad dros y person, ond yn hytrach gyda'r person. Mae eisiau i ni ddangos beth mae pobl ag anghenion arbennig yn gyffredinol yn gallu ei wneud o fewn cymdeithas.
Fuon ni'n ffodus iawn i'w fabwysiadu e.