Dave Edwards yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Dave Edwards, wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Fe wnaeth Edwards, 32, ennill 43 cap i Gymru dros gyfnod o 10 mlynedd, gan sgorio dair gwaith.
Roedd yn aelod o'r garfan gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016, ac fe chwaraeodd dair gwaith yn ystod y gystadleuaeth.
Wrth gyhoeddi ei garfan ddiweddaraf, dywedodd rheolwr Cymru Ryan Giggs: "Hoffwn ddiolch iddo am bopeth mae o wedi'i wneud dros Gymru, mae wedi gwasanaethu'i wlad yn wych."
Mewn datganiad ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ychwanegodd Edwards: "Mae wedi bod yn fraint cynrychioli fy ngwlad dros y 10 mlynedd diwethaf a dwi'n falch iawn o beth mae'r garfan wedi cyflawni yn y blynyddoedd diwethaf.
"Roedd chwarae dros Gymru yn rowndiau terfynol Euro 2016 heb os yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac mae'r haf wnâi fyth anghofio.
"Hoffwn ddymuno'n dda i weddill y garfan ar gyfer y gemau i ddod."