Y Mwmbwls yw'r 'lle gorau i fyw' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
MwmbwlsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae papur newydd y Sunday Times wedi cyhoeddi rhestr o'r "llefydd gorau i fyw yng Nghymru", gyda'r Mwmbwls yn Abertawe ar y brig.

Mae'n disodli'r Bont-faen ar dop y rhestr, gyda'r dref ym Mro Morgannwg ddim arni o gwbl eleni.

Dywedodd y Times eu bod wedi asesu nifer o ffactorau, gan gynnwys brogarwch, canlyniadau arholiadau, cyflymdra band eang ac argaeledd siopau lleol.

Dyma'r chweched flwyddyn i'r papur newydd gyhoeddi'r rhestr ar gyfer y DU gyfan, ac mae 10 lle o Gymru arni eleni.

Roedd 12 lle yng Nghymru ar y rhestr llynedd, ond dim ond pedwar sy'n cadw eu lle yn 2018 - Abersoch, Mynwy, Penarth a'r Fenni.

Unwaith eto eleni, Abersoch yw'r unig le yn y gogledd sydd ar y rhestr.

Y llefydd yng Nghymru ar y rhestr (yn nhrefn y wyddor):

  • Abersoch, Gwynedd

  • Llanandras, Powys

  • Llanussyllt, Sir Benfro

  • Mwmbwls, Abertawe

  • Mynwy, Sir Fynwy

  • Penarth, Bro Morgannwg

  • Talacharn, Sir Gaerfyrddin

  • Tregolwyn, Bro Morgannwg

  • Tyddewi, Sir Benfro

  • Y Fenni, Sir Fynwy