Y Mwmbwls yw'r lle gorau i fyw ond ble mae hoff lefydd eraill y Cymry?
- Cyhoeddwyd
Yn ôl darllenwyr y Sunday Times, y Mwmbwls ger Abertawe, yw'r lle gorau i fyw yng Nghymru.
Ond beth yw'ch hoff lefydd chi i fyw a bod?
Yn ystod ymgyrch Hoff Le Cymru Fyw, daeth nifer o leoliadau i'r amlwg, rhai yn llai adnabyddus nag eraill...


Elis James (digrifwr) - Machynlleth adeg yr ŵyl gomedi
"Fy hoff le yng Nghymru yw Machynlleth yn ystod yr ŵyl gomedi a gynhelir yno, penwythnos cyntaf mis Mai. Ma' Mach yn dre' hyfryd 'ta pryd chi'n dewis mynd, ond gyda dros gant o gomedïwyr gorau'r byd yn perfformio, ma' fe hyd yn oed yn well. Ma'r awyrgylch wastod yn wych, ma'r tywydd wastod yn wych (croesi bysedd!), a ma' fe'n rhoi cyfle i bobl y canolbarth fwynhau y gorau sydd gan gomedi i'w gynnig."


Manon Carpenter (pencampwraig beicio mynydd) - Mynydd Machen
"Rwy'n beicio mynydd dros y byd i gyd. Ond, pan fi'n dod nôl i Gymru, un o fy hoff lefydd i fynd yw copa mynydd Machen. Mae'n bosib gweld am filltiroedd i bob cyfeiriad ac rwy'n teimlo mod i wir wedi cyrraedd adre!
"Mae'r daith i fyny'n un anodd ond ma' dod lawr yn hollol ddiymdrech. 'Sdim ots os ma' hi'n heulog, glawio neu bwrw eira, fi wastad yn cyrraedd y gwaelod gyda gwên fawr ar fy ngwyneb!"


Tŷ Mawr Wybrnant - Anwen Evans
Anwen Evans - Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno
Meddai Anwen Evans, un o ddarllenwyr Cymru Fyw: "Un o fy hoff lefydd yw Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno, Dyffryn Conwy, sef cartref yr Esgob William Morgan.
"Yr ardd, gyda phlanhigion yn adlewyrchu yr ardd fel ag yr oedd hi yn y 16eg ganrif, yw fy hoff le - eistedd ar fainc fach ger wal gerrig, gyda choeden afalau yn ymestyn ei brigau dros y fainc, ac afon yn llifo gerllaw.
"Arogl hyfryd y blodau yn gymysg efo'r mwg coed tân o simdde'r tŷ, a'r adar yn canu. Yn wir, yng ngeiriau R Williams Parry: "...mae yno flas y cynfyd, yn aros fel hen win".
"Mae'r holl ardal yn brydferth tu hwnt, ond yn bennaf oll, mae'r llonyddwch a'r distawrwydd yn falm i'r enaid."



Mari Lovgreen (cyflwynydd teledu) - Tafarn y Black Boy, Caernarfon
"Fy hoff le'n y byd ydi tafarn y 'Black Boy' yng Nghaernarfon. Dydi'r paragraff yma'n egluro pam ddim am fod yn hir: tân agored, bwyd da, cwrw oer, cwmni gwell ac awyrgylch arbennig. Oes angen deud mwy?"


Elen Lois Williams - Pier Bangor
"Lle perffaith i fynd am dro yn ystod awr ginio a hel atgofion am ddyddie coleg."


Connie Fisher (seren y West End a chyflwynydd teledu) - Hen harbwr y Barri
"Dyma un o fy hoff lefydd i weld yr haul yn machlud. Dwi'n rhedeg ar hyd y llwybr yma weithiau a jyst yn gorfod stopio i dynnu llun. O bryd i'w gilydd mae'n bosib gweld yr awyrennau'n gostwng i lanio ac mae 'na awyrgylch rhyfedd sy'n gymysgedd o lonyddwch ac egni. Dyna sy'n unigryw am y Barri. Mae mor agos i brysurdeb y brifddinas - ond eto'n llawn prydferthwch. Wedyn ry'ch chi'n troi i'r cyfeiriad arall a gweld goleuadau neon y ffair yn fflachio! Mae'n gymysgedd hynod o fyd natur a masnach."
