Peiriannydd wedi marw mewn damwain awyren yn Y Fali

  • Cyhoeddwyd
Fali
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y ddamwain

Mae'r Awyrlu wedi cadarnhau fod peiriannydd o'r Red Arrows wedi marw ar ôl i awyren Hawk blymio i'r ddaear yn Y Fali ar Ynys Môn.

Dywedodd pennaeth gorsaf Y Fali, y Capten Nick Tucker-Lowe, fod peilot yr awyren wedi goroesi ac yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mewn datganiad, cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru mai dau ddyn oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Fali am tua 13:30 ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Capten Nick Tucker-Lowe bod teulu'r peiriannydd wedi cael gwybod

Wrth ddarllen y datganiad, dywedodd y Capten Nick Tucker-Lowe bod y digwyddiad yn "ddamwain drasig".

"Mae teulu'r dyn a fu farw wedi gofyn am oedi am 24 awr cyn i fwy o fanylion gael ei ryddhau," meddai.

"Mae peilot yr awyren wedi goroesi ac mae o yn derbyn triniaeth feddygol ar hyn o bryd."

'Cydymdeimlo'n ddwys'

Mewn datganiad, dywedodd Prif Farsial yr Awyrlu, Syr Stephen Hillier: "Mae'r ddamwain drasig yma'n ein hatgoffa na ddylwn ni fyth gymryd yn ganiataol y risgiau y mae pobl yn eu cymryd wrth wasanaethu ein gwlad.

"Rydw i'n cydymdeimlo'n ddwys gyda ffrindiau a theulu'r rhai gafodd eu heffeithio yn y cyfnod ofnadwy yma."

Ffynhonnell y llun, David Robert Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y gwasanaethau brys ar y safle brynhawn Mawrth

Disgrifiad,

Dywedodd Geraint Owen, oedd yn chwarae golff gerllaw, ei fod wedi gweld "pelen o dân"

Ychwanegodd datganiad Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n cydweithio ag ymchwiliad i'r digwyddiad, gan apelio ar unrhyw un welodd yr awyren brynhawn Mawrth i gysylltu gyda nhw drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn datganiad: "Fe gawson ni alwad ychydig cyn 13:30 ddydd Mawrth gydag adroddiadau bod awyren wedi dod i lawr ger canolfan RAF Fali ger Caergybi."

Mae awyrennau'r Red Arrows yn ymweld â gogledd Cymru yn aml i ymarfer.

Ffynhonnell y llun, openstreetmap.cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae maes awyr RAF Fali i'r de o'r pentref

Disgrifiad,

Mae mwg du i'w weld yn codi o'r safle

Dywedodd llygad dyst - Roy Jones o gwlb golff Ynys Môn, sy'n agos i ganolfan yr awyrlu - ei fod o ac aelodau eraill o'r clwb wedi clywed sŵn uchel a gweld "mwg du yn codi", cyn i gerbydau'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Ychwanegodd ei fod wedi gweld awyren yn hedfan gerllaw yn gynharach.

Dywedodd tystion eraill eu bod wedi gweld o leiaf un yn dianc gyda pharasiwt cyn i'r awyren daro'r llawr.

Mae cwmni Flybe, sy'n gyfrifol am yr hediadau rhwng Y Fali a Chaerdydd, wedi cadarnhau y bydd teithwyr yn cael eu cludo ar fysiau i hedfan o Gaer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Red Arrows yn cynnal sioeau awyr ar draws y byd