Polisi cynllunio newydd yn 'peryglu' coetiroedd hynafol
- Cyhoeddwyd
Gallai newidiadau i reolau cynllunio beryglu dyfodol coetiroedd hynafol y wlad, medd un elusen.
Dywedodd Coed Cadw eu bod yn "bryderus iawn" am y ffordd mae polisi ddiweddaraf Llywodraeth Cymru wedi ei eirio.
Maen nhw'n honni bod y brawddegau sydd i fod i ddiogelu coetiroedd hynafol "yn wannach o lawer" a bod hynny'n rhoi "cyfle i ddatblygwyr".
Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod eu polisi cynllunio newydd yn "cydnabod pwysigrwydd coetir hynafol a rhannol naturiol" ac y dylent gael eu hamddiffyn.
Coetiroedd unigryw
Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y degfed argraffiad o Bolisi Cynllunio Cymru, sy'n egluro sut y mae Llywodraeth Cymru am weld y system gynllunio yn gweithio.
Mae wedi ei addasu i efelychu ymrwymiadau gan weinidogion o ran adeiladu tai a chynhyrchu trydan, yn ogystal â phasio deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gorfodi holl gyrff cyhoeddus y wlad i ystyried goblygiadau hir dymor eu penderfyniadau.
Pwysleisio'r angen i gymodi anghenion datblygwyr a chadwraeth wna'r ddogfen.
Ond mae Coed Cadw'n rhybuddio bod y ffordd y mae'r polisi'n trafod coetiroedd hynafol wedi ei addasu am y tro cyntaf ers 2002.
Dyma ardaloedd o goed sydd wedi bodoli yng Nghymru ers o leiaf 1600AD, gyda rhai'n cynnwys gweddillion y coetir gwyllt oedd yn gorchuddio'r Deyrnas Unedig ar ôl yr Oes Ia ddiwethaf 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Gan eu bod nhw wedi aeddfedu dros ganrifoedd mae nifer o nodweddion unigryw, ac yn cael eu hystyried fel y cynefinoedd mwyaf cyfoethog ar y tir ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae ychydig dros 4% o dirwedd Cymru wedi ei orchuddio a choedwigoedd hynafol.
'Pob ymdrech i atal difrod'
Roedd y polisi gwreiddiol yn eu diffinio nhw fel "cynefinoedd na ellir mo'u hamnewid" a ddylid cael eu gwarchod rhag datblygiad.
Ond mae'r ddogfen newydd yn newid hynny i "adnoddau naturiol na ellir mo'u hamnewid" ac yn dweud yn hytrach y "dylid gwneud pob ymdrech i atal gweithgareddau a allai achosi difrod a'u colli'n ddiangen".
Mynnodd Rory Francis, swyddog cyfathrebu'r elusen yng Nghymru fod y geiriad newydd yn "gwanhau'r amddiffynfeydd" oedd yn eu lle ar gyfer coetiroedd hynafol yn sylweddol.
"Ers mwy na 10 mlynedd rŵan mae Llywodraeth Cymru wedi bod 'efo polisi gwych o gydnabod bod y darnau bach yma o goetir hynafol wedi parhau dros y canrifoedd a'u bod nhw'n cael eu gwarchod yn glir mewn polisi cynllunio.
"Ond da ni'n pryderu yn fawr fod y newidiadau yn rhoi'r cyfle i unrhyw ddatblygwr, unrhyw dirfeddiannwr sydd eisiau dinistrio'r coetiroedd hynafol i wneud hynny.
"A 'da ni'n meddwl bod hynny'n rhoi'r neges cwbl anghywir ar yr amser pwysig yma lle 'da ni'n trio cynllunio polisi newydd ar gyfer rheoli tir ar ôl Brexit."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn â'u polisi cynllunio newydd.
Mae'r polisi hwnnw yn "cydnabod pwysigrwydd coetir hynafol a rhannol naturiol a sut y dylent gael lefelau ychwanegol o amddiffyn".
Ychwanega'r llefarydd y gall unrhyw un sydd â diddordeb rannu eu barn cyn bod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 18 Mai.
Coetir Leadbrook, Sir y Fflint
Gallai cynlluniau i godi ffordd ddeuol newydd yn Sir y Fflint effeithio ar goetir Leadbrook, sydd wedi bod yno ers oes y Rhufeiniaid yn ôl rhai.
Bwriad y ffordd, allai gostio £280m, yw taclo traffig ar yr A494 ger Queensferry, a bydd yn cael ei adeiladu dros 138 o erwau o dir fferm.
Mae'r llywodraeth wedi addo plannu coed o'r newydd a mesurau lliniaru eraill i wneud yn iawn am yr effaith ar goetiroedd hynafol ar hyd llwybr y datblygiad.
Mae fferm Ann Jones yn ffinio'r goedwig, ac mae'n honni y bydd yr effaith ar yr ardal yn "ofnadwy".
"Mae'n ardal mor brydferth, ac mae'r sŵn a'r pollution a'r traffig, mae'n ofnadwy rŵan, a ma' nhw ond yn mynd i symud y traffig i fyny i'r pentref a mae'n mynd i fod yn ofnadwy.
"Does 'na'm llawer o lefydd fel hyn, mae'n goedwig hynafol a mae blodau ac adar, 'wnewch chi ddim eu ffindio nhw yn unman arall.
"Maen nhw'n mynd i blannu 'chydig o goed yn rhywle arall. Wel dydyn nhw byth yn mynd i gael coedwig hynafol fel hyn eto, 'di o byth yn mynd i ddigwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2017