Buddugoliaeth i Gymru yng Nghwpan China a record i Bale
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Cymru i ennill yn gyfforddus o 6-0 yn erbyn China yng ngêm gyntaf Ryan Giggs wrth y llyw, wrth i Gareth Bale ddod yn brif sgoriwr yn hanes tîm pêl-droed Cymru.
Y newyddion mawr ar ddechrau'r gêm oedd bod Bale yn dechrau i Gymru, gyda Harry Wilson, sydd ar fenthyg yn Hull o Lerpwl, hefyd yn dechrau'r gêm.
Fe gamodd Cymru allan yn ei gwisg oddi-cartref newydd o grysau gwyn, trowsus byr a sanau gwyrdd.
Daeth y gôl gyntaf wedi dwy funud. Roedd cyflymdra Bale yn ormod i amddiffynwyr China ac fe osododd y bêl yng nghornel y rhwyd o 12 llath.
Gyda Chymru yn llwyr reoli'r chwarae daeth ail gôl y gêm i Bale wedi 21 munud.
Pas gan Sam Vokes i lwybr Bale ac roedd ymosodwr Real Madrid yn glir un-am-un gyda Yan Junling yn y gôl i China cyn rhwydo ei ail o'r noson.
Er eu mantais roedd Cymru'n parhau i bwyso gyda rhediadau Wilson a Bale yn creu trafferthion i amddiffyn China.
Daeth y drydedd gôl diolch i gyffyrddiad Vokes o wyth llath o beniad Andy King, ond unwaith eto Bale oedd wrth wraidd y symudiad.
Munud cyn yr egwyl llwyddodd Wilson i sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf i Gymru.
Bale unwaith eto oedd â'r bas i'w lwybr ac fe ergydiodd yn berffaith i gefn y rhwyd i wneud y sgôr yn 4-0.
Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda China yn methu â chreu problemau i Gymru wrth i dîm Giggs fwynhau rhan helaeth o'r meddiant yn yr hanner cyntaf.
Er i China ddod â phedwar eilydd i'r maes ar gyfer yr ail hanner, Cymru ddechreuodd orau unwaith eto.
Wilson yn serenu
12 munud i mewn i'r ail hanner fe sgoriodd Vokes ei ail gôl o'r noson.
Pêl wych gan Wilson i mewn i'r cwrt cosbi ac fe lwyddodd Vokes i guro'r llinell camsefyll i sgorio pumed gôl Cymru.
Pum munud yn ddiweddarach daeth Bale y prif sgoriwr yn hanes tîm pêl-droed Cymru gyda'i hat-trick a gôl rhif 29 i'w wlad gan fynd heibio i record flaenorol Ian Rush.
Pas arall yn hollti'r amddiffyn a Bale yn amseru ei rediad yn wych cyn gosod y bel heibio i Yan yn y gôl.
Dyna oedd cyfraniad olaf Bale o'r noson, wrth iddo sgorio ei hat-trick cyntaf i Gymru, fe adawodd y maes wrth i Giggs ddod â thri eilydd ymlaen.
Vokes, Allen a Bale yn gadael a Ben Woodburn, Tom Bradshaw a Lee Evans yn dod ymlaen.
Gydag un llygad ar y rownd derfynol ddydd Llun, penderfynodd Giggs i orffwys rhai o'i amddiffynwyr drwy dynnu Ben Davies a James Chester i ffwrdd a rhoi cyfle i Chris Mepham a Tom Lockyer.
Ar ôl gêm wych yn ymosodol fe adawodd Wilson y maes wedi 70 munud gyda Marley Watkins yn dod ymlaen yn ei le.
Fe gymerodd hi 77 munud cyn i China orfodi Wayne Hennessey i wneud arbediad - ergyd gan Yu Dabao a llwyddodd golwr Cymru i gael llaw chwith gryf i wthio'r bêl yn erbyn y postyn.
Roedd Cymru yn parhau i chwarae pêl-droed taclus gyda thempo uchel nes y chwiban olaf, a fu bron i Bradshaw ychwanegu at y chwe gôl oni bai am arbediad Yan.
Cymru felly fydd yn camu ymlaen i rownd derfynol Cwpan China ddydd Llun yn erbyn naill ai Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018