Datblygu gwisg newydd i warchod gwenynwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr yn dweud iddo ddyfeisio gwisg newydd sy'n atal pigiadau i wenynwyr wedi i ffrind gael ymateb alergaidd drwg i bigiad gan wenynen.
Mae'r wisg Sentinel Pro 3D, a grewyd gan Ian Roberts, wedi ei gwneud o ddeunydd sy'n fwy trwchus na phigiad y wenynen gyffredin.
Ar hyn o bryd mae'r wisg yn cael ei defnyddio gan fyfyrwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne.
Bydd y wisg yn cael ei lansio'n swyddogol yng nghynhadledd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn Llanelwedd ddydd Sadwrn.
Cafodd Mr Roberts, sydd wedi cadw gwenyn yn Fferm yr Hen Gastell, Castell-nedd ers blynyddoedd, ei ysbrydoli i ddatblygu'r wisg wedi i ffrind gael adwaith anaffylactig drwg i bigiad.
Nid yw siwtiau gwenynwyr traddodiadol yn honni eu bod yn atal pigiadau, ond wrth eu defnyddio gyda dillad eraill maen nhw'n cynnig rhywfaint o ddiogelwch.
Dywedodd Mr Roberts: "Roedden ni'n siarad a sôn y bydden ni wrth ein bodd cael siwt fyddai'n ein gwarchod yn llwyr rhag pigiadau, ac fe wnes i ddechrau meddwl am y peth.
"Hyder yw un o'r problemau mwyaf yn y maes. Mae gwenyn yn gallu synhwyro pan ydych chi'n nerfus, ac mae cael siwt sy'n atal pigiadau yn llwyr yn codi hyder."
Fe wnaeth Mr Roberts ddefnyddio deunydd ysgafn, sy'n gallu 'anadlu' ac yn cael ei gynhyrchu gan gwmni o Croatia.
Dywedodd fod pigiad gwenyn fel arfer rhwng 1.5mm a 3mm o hyd, ond mae deunydd y wisg yn 3.5mm o drwch, ac felly atal y mwyafrif llethol o bigiadau.
Dywedodd Lynda Christie, sy'n hyfforddi myfyrwyr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, y byddai'r wisg yn cynnig tawelwch meddwl i fyfyrwyr sy'n poeni am gael eu pigo.
Mae'r siwt hefyd wedi cael cefnogaeth gan Cywain Gwenyn, sy'n cefnogi gwenynwyr Cymru ac yn gweithio i gynyddu faint o fêl sy'n cael ei gynhyrchu a'i farchnata yng Nghymru.