Gwrthdrawiad A470: Arestio gyrrwr

  • Cyhoeddwyd
gwrthdrawiad a470Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A470 yn parhau ar gau tua'r gogledd

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A470 yn Rhondda Cynon Taf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerbydau Subaru Impreza a Honda Civic, ger cyffordd Nantgarw a Glan-bâd ychydig cyn 12:50 ddydd Mawrth.

Mae dyn 25 oed o Drefforest, oedd yn gyrru'r Subaru, wedi'i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd dyn 58 oed o ardal Sblot o Gaerdydd, oedd yn gyrru'r Honda, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol ond nid yw ei fywyd mewn perygl.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi anfon parafeddygon a cherbyd ymateb brys i'r lleoliad, yn ogystal â thîm ymateb i ardal beryglus.

Cafodd ambiwlans awyr hefyd ei anfon i'r digwyddiad i gefnogi'r criwiau.

Fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnodau ond mae'r ddwy lon bellach wedi ailagor.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y naill gerbyd yn cael eu gyrru ychydig cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.