Cyhoeddi carfan merched Cymru cyn eu gêm yn erbyn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Jayne Ludlow
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith yr hyfforddwr Jayne Ludlow yw cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth Ffrainc yn 2019

Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Merched Lloegr.

Fe fydd tîm Jayne Ludlow yn herio Lloegr yn stadiwm St Mary's yn Southampton ar 6 Ebrill.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig Grŵp A, dim ond un pwynt sydd uwchlaw Lloegr sydd ag un gêm wrth gefn.

Yn dilyn y gêm yn erbyn Lloegr, fe fydd gan Gymru dair gêm gartref yn ystod yr haf.

Bydd y Capten Sophie Ingle yn arwain carfan gref sy'n cynnwys Jess Fishlock, Natasha Harding ac Angharad James.

Fe fydd Jayne Ludlow yn gobeithio y bydd yr ymosodwraig Kayleigh Green yn parhau â'i rhediad presennol, gan iddi sgorio tair gwaith yn y pum gêm diwethaf.

Y garfan yn llawn:

Claire Skinner (Carfan Perfformiad Cymru), Laura O'Sullivan (Merched Cyncoed), Loren Dykes (Merched Bristol City), Sophie Ingle (Merched Lerpwl), Alice Griffiths (Carfan Perfformiad Cymru), Rhiannon Roberts (Doncaster Rovers Belles), Rachel Rowe (Merched Reading), Elise Hughes (Merched Everton), Jess Fishlock (Seattle Reign), Hayley Ladd (Merched Birmingham City), Angharad James (Merched Everton), Nadia Lawrence (Carfan Perfformiad Cymru), Charlie Estcourt (Merched Bristol City ar fenthyg o Reading), Natasha Harding (Merched Reading), Gemma Evans (Merched Yeovil Town), Helen Ward (Merched Watford), Kylie Nolan (Merched Bristol City), Melissa Fletcher (Merched Reading), Kayleigh Green (Merched Yeovil Town), Hannah Miles (Merched Yeovil Town).