Apêl i rieni yn y de ddwyrain wedi achosion o'r frech goch
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n galw ar rieni yn y de ddwyrain i sicrhau fod eu plant wedi eu brechu yn dilyn achosion o'r frech goch yn ardaloedd Caerdydd a Blaenau Gwent.
Mae 14 achos wedi eu cadarnhau, ac mae'r corff yn cydweithio â Byrddau Iechyd Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan i ddarparu sesiynau brechu mewn ysgolion.
Dywedodd y Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r clwstwr yma'n mudferwi, ac ry'm ni eisiau ei atal cyn iddo ddal gafael.
"Mae'r Frech Goch yn hynod heintus a'r unig ffordd o atal nifer fawr o achosion yw drwy frechu.
"Cyn gwyliau'r Pasg, rydym yn annog pob rhiant sydd â phlentyn yn ardaloedd Caerdydd a Blaenau Gwent, sydd ddim wedi cael dwy ddos o'r MMR i gysylltu â'u meddyg teulu ar unwaith, a threfnu i gael brechiad."
Dylai unrhyw un sy'n poeni fod symptomau'r frech ar eu plant gysylltu gyda'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.