Cynnydd o 8% mewn troseddau gyrru yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd mwy na 500 o yrwyr eu dal yn goryrru bob dydd ar gyfartaledd yng Nghymru yn 2017.
Daeth y wybodaeth i law BBC Cymru yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae ffigyrau gan heddluoedd Gwent, De Cymru, Dyfed Powys a Gogledd Cymru yn dangos bod 184,880 o droseddu goryrru wedi'u cofnodi dros flwyddyn - 506 bob dydd ar gyfartaledd.
Mae hynny'n gynnydd o 8.1% o'r flwyddyn flaenorol wedi i 171,000 o droseddau gael eu cofnodi yn 2016.
Dywedodd yr elusen Brake fod y ffigyrau yn "bryderus iawn".
'Cosbau llymach'
Yr ardal a welodd y cynnydd mwyaf oedd Gwent, lle cododd y nifer o 29,611 yn 2016 i 47,992 y llynedd.
Daeth bron hanner y troseddau yna ar yr M4 rhwng Cyffordd 24 a chyffordd 28.
Roedd nifer uchaf y troseddau yn Ne Cymru, gyda 71,700 o yrwyr yn cael eu cosbi. Y ffigwr yn 2016 oedd 66,086.
Fe welodd Heddlu Gogledd Cymru gwymp yn nifer y troseddau - i lawr o 62,501 i 51,768 mewn blwyddyn.
Y gosb i yrwyr sy'n cael eu dal yn goryrru yn y DU yw dirwy o £100 o leiaf a thri phwynt ar y drwydded.
Dywedodd llefarydd ar ran Brake, elusen sy'n ymgyrchu dros ddiogelwch ar y ffyrdd: "Mae'r cynnydd mewn troseddau goryrru yng Nghymru yn awgrymu tuedd pryderus iawn o ymddygiad anniogel wrth yrru.
"Rydym yn croesawu mwy o blismona, ond yr hyn sydd ei angen yw cosbau llymach os ydyn ni am atal gyrwyr rhag torri'r gyfraith a rhoi bywydau mewn perygl ar ein ffyrdd."